Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

$9$ SC0BPI0N. cyffyrddodd Scorpion âg ef erioed. À rhyfedd yvv hyn yn ein golwg ni, o herwydd mae bron bob dyn sydd wedi'gwneud gwaith o unrhyw werth yn y byd wedi derbyn ei ysbrydoliaeth oddiwrth ei fam. Fel rheol, nid yw o gymaint pwys pa fath un fydd y tad: os bydd y fam yn wraig rinweddol, ddoeth, a gofalus, ac o gyneddfau uwchraddol, ond odid na fydd ei phlant yn troi allan yn hyfrydwch iddi, ac yn goron ei henaint. Grwir y dywedai Napoleon mai mamau Prydain Fawr oedd wedi ei dyrchafu i safle mor urddasol yn mysg gwledjdd y byd. Dylanwad y fam yw y dylanwad cryfaf yn ffurfiad cymeriad y plant; maeei chynghorion a'i hesiampl hi wedi eu hireiddio gan dynerwch ei chariad, ac erys ei delw yn annileadwy ar fywyd ei hiliogaeth. Ond dyma eithriad i'r rheol. Nid ymddengys fod Catherine Roberts wedi pryderu rhyw lawer yn nghylch addysg na chrefydd ei phlant, a sicr yw na fu ganddi law helaeth yn ffurfio cymeriad ei mab Thomas. Rhaid dyfod i'r penderfyniad mai y dyn newydd yn Harri Roberts oedd y gallu cryfaf, o ran dylanwad allanol, a fu yn gweithredu i foldio cymeriad y bachgen i'r ffurf yn mha un y gwelwyd ef yn cyflawni goruchwyliaeth namyn un y deng mlynedd a thriugain a fu yn nyddiau ei flynyddoedd* Cyn geni Thomas yr oedd gras wedi dilëu olion y dueddfryd iselradd a nod- weddasai y rhan gyntaf o fywyd ei dad, ac wedi gwneud o hono ddyn yn yr hwn yr oedd llawer o neillduolion prydferthaf crefydd a dynoliaeth wedi ymwëu. Fel y mwyafrif o blant Cymreig dri ugain mlynedd yn ol, ni chafodd Scorpion ond ychydig iawn o fanteision addysg yn moreu ei oes. Ac onid yw yr ymadrodd hwn yn ystrydebol yn hanes enwogion ein cenedl? Ac onid ydynt oll o'r bron wedi dysgu heb athrawon, ac ymddiwyllio heb ysgolion? Bu Thomas Roberts am beth amser mewn ysgol ddyddiol, a gynaliasai Caledfryn yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Ninbych, a thebyg iddo ddyfod i adnabod rhywbeth o elfenau addysg wrth draed y gwron gwladgar hwnw, ond ymadawodd Caledfryn oddiyno pan oedd efe o dan unarddeg oed, a'i dad fu yn cyflawni y diffyg hyd nes y daeth efe yn alluog i rodio yn ffyrdd gwybodaeth ar ei draed ei hun. Yr oedd Harri Roberts yn ysgrifenwr nodedig o dda, yn ddarllenwr Cymraeg a Saeaoneg campus, yn rhifyddwr medrus, ac yn mhell tuhwnt i safon y werin mewn gwybodaeth gyffredinol; ac o ganlyniad derbyniodd Thomas lawer o gynorthwy ac o hyfforddiant gan ei dad. Yr oedd yntau yn ddysgybl hydrin; yr oedd newyn a syched arno am wybodaeth; a hyfryd ganddo oedd pob moddion a dueddai i'w ddiwallu. Nid oedd dim arbenig ynddo fel plentyn, oddieithr ei fod bob amser yn ymddwyn yn weddaidd ac yn ymgadw rhag arferion isel v plant oedd o'i amgylch. Tra yn barod i ymuno mewn pob chwareu diniwed, ni chlywid mo hono byth yn arfer iaith anmhriodol, ac ymddidolai oddiwrth y cwnmi os byddai y chwareu yn debyg o droi yn chwerw. Yr oedd yn heddychlon â phawb, yn hynod o dawel a didramgwydd: ond ar adegan.pan y byddai y bechgyn yn gwueud cam âg ef, neu yn cymeryd mantais ar ei ddystawrwydd, nen pan ŷ gelwid am ei wasanaeth i amddiffyn iawnderau dynsawd ambelí fachgon go ddiymadferth, rhoddai y fath brawf o nerth braich ac o aneliad dwrn ag a argyhoeddai y dewraf o blant Dinbych mai nid gwr i gellwair âg ef oedd Thomas Roberts. A bu hyn yn wir am dano mewn ystyr uwch ar hyd ei oes. Bu ei fam farw pan oedd efe yn ddeuddeg oed, a gadawyd ei dadiofaluamy teulu. Cyn pen hir ar ol hyn, gosodwyd Thomas yn tMrentísgôfyn Ninbych, ac yn yr. efail y bu am amryw flynyddau. Mae