Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd •'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Y PROFFWYD ESAIAH F£L EFENGYLWR. GAN Y PRIFATHRAW DR. PROBERT, BANGOR. |IAU fod natur proffwydoliaeth, yr hon aalwyd "y mudiad dyfnaf o eiddo yr ysbryd dynol," yn un rhy anhawdd i'w hegluro yn foddhaol; ond gelhr dangos fod rhai syniadau a goleddwyd yn eichylch yn rhai eithafol achyfeiliornus. Meddyliwyd mai rhagíynegiadau yn unig o ddigwyddiadau dyfodol oedd y proffwydoliaethau, a thybiwyd mai cynyrchdwyfol ysbryd- oliaetti yn unig oeddynt; ond dìameu y perthynent 1 ddigwyddiadau presenol yn gystal ag i rai dyfodol, ac y cynwysent eìfen ddynol, yn gystal ag un ddwyfol. Profa mynych gyfeinadau y proftwydi at amgylchiadau eu hoes, y gosodiad cyntaf; a chadarnheir yr ail, gan Num. xii. 6—8, lle y gwahaniaethir rhwng Moses ag un o broffwydi yr Arglwydd. Yr oedd elfen ddwyfol a dynol yn y profTwydoliaethau. Hwyrach nas gellir eu holrhain, mwy nag y gellir nodi allan efíeithiau gwres celfyddydol y poethdy (hothouse) a gwres naturiol yr haul, yn y grawnwin a gynyrchasant drwy eu cydweithrediad; ond nid oedd y naill yn cau allan y llall, eithr galwent am eugilydd. Nid pibellau oedd y proffwydi i gludo yr hyn na theimlent, ond llefarent "megis y cynhyrfwyd hwy;" ac ni allasent wneud y defnydd a wnaethant o'r elfenau naturiol oedd o fewn eu cyrhaedd, heb "yr Ysbryd Glan," onide paham na wnaetli y cenhedloedd yr un defnydd o honynt? Fel y sylwa Davidson, gan fod y cenhedloedd yn dra chyftredinol yn credu yn modolaeth Duw, a'i barodrwydd 1 egluro ei feddwl i ddynion, ac felly yn gyntaf i ryw ddosbarth neillduol o honynt, yr oedd yn naturiol iddynt feddu dysgawdwyr yn cyrateb i'r proíî- wydi Iuddewig; ac ystyrid fod y cytryw rai yn derbyn eu gwybod- aeth oddiwrth arwyddion allanol, a thrwy oraclau. Ond er caniatau hynyna, rhaid addef fod gwahaniaeth mawr rhyngddynt â'r proft- wydi Iuddewig. Diameu eu bod hwy yn gwneud defnydd o'u hamgylchion 1 gael eu proffwydoliaethau, drwy ysgaru yn eu meddyliau bob diffyg oddiwrth ryw berson, neu ddigwyddiad, ac ychwanegu atynt bob rhagoriaeth a allent feddwl am dani, ac yna ddutgan y buasai eu meddylddrych yn sicr o gael ei sylweddoli.