Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd 'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." ('yf. Nf.wydd.—29. EBRILL, 1905. Hkn Gyf.—526. ADGYFODIAD IESU GRIST. GAN Y PARCH. J. CHARLES, DNBYf H. |WYRTH ryfeddaf ei hanes oedd adgyfodiad Iesu Grist. Parheir i honi fod Cristionogaeth yn sefyll neu yn syrthio gyda'r wvrth hon. A ydyw hyn yn wir? Pa sawl gwaith y gwnaed haeriadau cyffelyb am bethau eraill, y rhai a dybid eu bod yn hanfodol i'r Grefydd Gristiono^ol; onderbyn hyn, fe welir, nid yn unig nad ydynt yn hanfodol i Gristionogaeth, ond mai cymharol ddibwys ydynt? Gallem nodi fel engreifftiau adna- byddusy gwrthwynebiad a deimlid i gyfnodau meithion daeareg, ac i'r dargantyddiad mai yr haul yw cafiol-bwynt y gyfundrefn heulog, ac nid y ddaear. Credwn ar yr un pryd, fod pwysigrwydd eithriadol yn perthyn i adgyfodiad Crist. Ond y cwestiwn yw: A ydyw adgyfodiad corph Iesu Grist o'r bedd ar fore y trydydd dydd, yn hantodol i fywyd y grefydd Gristionogol? Tybier íod mwyafrif mawr canlynwyr Crist, yn mhen can' mlynedd, yn gwadu adgyf- odiad llythyrenol ei gorph o'rbedd, ond yn credu ei íod wedi ad- gyiodi oddi wrth y meirw, ei fod yn awr yn eiriol yn y nef, a'i fod yn byw trwy ei Ysbryd yn yr eglwys bob amser ar y ddaear; a fyddai athrawiaeth fel hon yn ddinystr i Gristionogaeth, fel crefydd Ysbrydol, berffaith, a thragwyddol? Neu tybier mai hyn oedd barn yr eglwys o'r dechreuad—a fyddai llwyddiant Cristionogaeth yn anmhosibl, yn ol y fath athrawiaeth? Pa egwyddor ysbrydol a hanfodol a gollid, yn ol y ddysgeidiaeth hon? Byddai yn dda i'r rhai sydd yn gwneud haeriadau anffaeledig am yr hyn syddyn han- íodol i grefyda Iesu Grist feddwl am hyn. Cofìer mai son am eg- wyddorion yr ydym yma. Nid ydym yma yn cyfeirio o gwbl at y tystion, nag at adgyfodiad Crist fel ffaith hanesyddol, nac at eiriau Iesu Grist ei hun am ei farwolaeth. Daw y pethau hyn dan sylw eto. Mae Person y Mab yn hanfodol i Gristionogaeth, ac y mae "Iesubyw" yn hanfodol i lwyddiant yr Etengyl. Peidier a'n camddeall; yr ydym yn credu a'n holl galon, wediy cyfan, fod Iesu wedi adgyfodi o'r bedd ar fore y trydydd dydd. Hwn yw y mater y ceisir ei brofi; ond mewn ysgrif fel hon, rhaid ymfoddloni ar