Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedî ei Uno." Cyf. Nbwydd.—41. EBRILL, 1906. Hen Gyf.—536. SEL ENWADOL A SEL GREFYDDOL. GAN Y PARCH. B. DAVIES, D.D., CASTELLNEWYDD EMLYN. GEIRIAU a ddefnyddir yn gyfystyr a'r sêl ydynt awyddfryd, mawrserch, eiddigedd, brwdfrydedd. Nid yw y gair ynddo ei hun yn dangos nodwedd yr hyn y dygir sêl drosto, yn hytrach golyga sefyllfa meddwl yn codi o argyhoeddiad. Dy wedir fod y Phariseaid yn dwyn sêl yn erbyn y Gwaredwr; ffurfient gyhuddiadau yn ei erbyn, ac erlidient ef yn ddiachos. Dywed Paul wrth adolygu ei fywyd, cyn ei droedigaeth, ei fod "yn ol sêl yn erlid yr eglwys." Teimlai awyddfryd cryf i'w drygu a'i dinystrio. Yn yr enghreifftiau yna, dengys y gair sêl feddwl o dan ly wodraeth nwyd annuwiol. Dy wed Elias, wedi iddo fyned i Horeb, ei fod wedi dwyn mawr sêl dros Arglwydd Dduw Israel. Y sêl hono oedd yn cyfrif am ei feiddgarwch yn cyhoeddi cymanfa ar fynydd Carmel i benderfynu pwy oedd Dduw yn Israel. Cynhyrfid ei galon gan eilunaddoliaeth y genedl fel nas gallai oddef yr annuwioldeb heb ei ddwyn i brawf. Ar ymweliad cyntaf y Gwaredwr â Jerusalem, wedi dechreu ar ei fywyd cyhoeddus, gwelodd rai yn gwerthu ychain a cholomenod, ac eraill yn newid arian. Ymgynhyrfodd ei eiddigedd sanctaidd, a gyrodd y cyfryw allan; ac wrth ei weled yn gwneud hyny, fe gofiodd y disgyblion ymadrodd o lyfr y Salmau, "Sêl dy dŷ di am hysodd î'." Llosgid ei enaid sanctaidd gan eiddigedd dros sancteiddrwydd cysegr ei Dad. Golyga y gair sêl fod y meddwl o dan lywodraeth eiddigedd, wedi ei feddianu gan amcan arbenig, ac yn defnyddio pob peth i gyrhaedd yr amcan hwnw a fyddo yn gydweddol â'i natur. Def- nyddiai Paul, cyn eì droedigaeth, bob peth i'w gynorthwyo i ddi- frodi y saint, a defnyddiai Elias bob peth cyfreithlawn i ddifa eilun- addoliaeth o'r wlad. Ychydig o werth sydd mewn dyn os na ellir cynyrchu eiddigedd ynddo, o fewn terfynau, dros yr hyn a dybia sydd yn wirionedd. Nid yw pob sêl yn dduwiol, ond y mae yn anhawdd bod yn dduwiol heb feddu sêl. Dylid ymdrechu adnabod y gwahaniaeth rhwng y sêl hono nad yw "ar ol gwybodaeth, a'r hon sydd ar ol gwybodaeth; y sêl a gynyrchir gan argyhoeddiad o