Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—46. MEDI, 1906. Hen Gyf.-641. FFYDD GADWEDIGOL GAN Y PARCH. J. J. JONES, B.A., LLANELLI. AE i ffydd gymaint o agweddau fel nas gellir rhoddi darnodiad fydd yn cynwys ac yn dweyd y cyfan sydd ynddi. Fe gychwynwn gyda Ffydd Naturiol. Golygwn wrth Ffydd Naturiol, y ffydd hono y diogelir bywyd näturiol drwyddi— bywyd personol a chymdeithasol. Ni fuasem yn bwyta ymborth b'eunyddiol, onibae am yr ymddiriedaeth sydd genym yn y gynhaliaeth sydd ynddo. Ceir ambell i ddyn gor- phwyllog heb ffydd yn ei fwyd, am y cred fod gwenwyn ynddo, gwrthyd ei gymeryd, a marw yw'r canlyniad. Cedwir b)Twyd y corph drwy fîydd. Gallwn ddweyd peth tebyg am fywyd cymdeithasol. Cedwir hwn eto gan y mesur o ffydd sydd mewn aelodau cymdeithas—y naill yn y lla.ll. Ymddiriedaeth y prynwr yn y gwerthwr, a'r gwerthwryn y prynwr; y gwas yn y meistr, a'r meistr yn y gwas; yr athraw yn ei ddysgybl, a'r dysgybl yn yr athraw; y rhieni yn y plant, a'r plant yn y rhieni, cScc. Dyma'r gwahaniaeth mawr sydd rhwng sefyllfa pethau mewn gwlad waraidd a gwlad anwaraidd. Yn nghanol anwariaid Canolbarth Affrica neu New Guinea ni cheir fawr o wir cymdeithasol, am nad oes yno fawr o ffydd. Yr ysbryd Ismaelaidd sydd yn llywodraethu yno. Dyn gwyllt yw y brodor, "a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau." Ond mae gwareiddiad yn dibynu i raddau helaeth ar ffydd. Mae bywyd personol a chymdeithasol yn gadwedig a diogel drwy ffydd. Dyddorol iawn fuasai olrhain y ffydd naturiol hon. Ond nid dyna ein pwnc y tro hwn. Ffydd yn y cylch a'r maes crefyddol sydd genym mewn llaw; ac ar hon y dymunem wneud ychydig sylwadau. Nis gallwn roddi ond ychydig awgrymiadau ar bwnc mor eang, ac na ddysgwylied y darllenydd caredig ddim yn bendant a therfynol arno. i c