Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dp$ôedpdd " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Y DDWY OCHR l'R CYMERIAD DWYFOL. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. " Gwel am hyny ddaioni a thoster Duw."—Rhüf. xi. 22. |YFEIRIO y mae yr apostol yn y geiriau hyn at waith Duw yn amddifadu yr Iuddewon fel cenedl o'u rhagorfreintiau crefyddol, yn gosbedigaeth gyfiawn arnynt am eu hanghrediniaeth a'u gwrthodiad o'r Messîah; acat waith Duw, o'r tu arall, yn galw y cenhedloedd paganaidd ac eilun- addolgar i fwynhau breintiau gwerthfawr yr efengyl, yn lle yr Iuddewon. Yr oedd tori yr Iuddewon ymaith o'r olewydden frâs, fel canghenau diffrwyth, ac impio y cenhedloedd i mewn yn eu lle i gyfranogi o frasder yr olewydden, yn dangos y ddwy briodoledd Ddwyfol y cyfeiria yr apostol atynt, sef daioni Duw tuag at y cenedl-ddyn anheilwng, a'i doster, ar y llaw arall, tuag at yr Iuddew anghrediniol. Pan y mae yr apostol yn son yma am "doster Duw," y mae yn sicr mai nid yr un ystyr sydd i'r ymadrodd ag sydd i ymadrodd cyffelyb yn ngeiriau y gwas anfuddiol, pan y mae hwnw yn ceisio esgusodi ei ddiogi a'i esgeulusdra ei hun trwy gyhuddo ei arglwydd o fod yn "wr tost."1 Yr oedd hwnw wrth ddweyd fod ei arglwydd yn "wr tost," yn arwyddo ei fod yn un caled, anghyfiawn, a chreulawn. Ond y mae ein Duw ni yn anfeidrol bell oddiwrth fod yn un felly. Wrth "doster Duw," y meddylir ei uniondeb a'i gyfìawnder diwyrni, a'r cosbedigaethau llymion a weinyddir ganddo, oherwydd hyny, ar droseddwyr ei ddeddfau. Mae y geiriau sydd .genym dan sylw yn arwyddo— I. FOD Y DDWT BRI0D0LEDD, SEF DAI0NI A THOSTER, NEU DRUGAR- EDD DIRION A CHYFIAWNDER PUR, YN CYD-GYFARFOD YN NGHYMERIAD Duw. Mae Duw yn un anfeidrol dda. "Da ydwyt a daionus."- Da ynddo ei hun, a daionus i'w greaduriaid. "Daionus yw yr Arglwydd i bawb; a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd."s Fel un anfeidrol dda y mae yn ewyllysio hapusrwydd a dedwyddwch ei ìLuc xix. 21; sSalm cxix. 68, Scx! v. 9.