Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

01 y Dpsaedpdcl: " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." TRAGYWYDDOLDEB YN NGHALON DYN. GAN Y PARCH. J. HUGHES, TANYGRISIAU. "Efea osododd dragywyddoldeb hefyd yn eu calon hwy."—Pregethwr iiL 11. lCyf. Diwyg.—Ymyl y ddalen). MAE yr amrywiaeth diderfyn nodwedda helyntion ein bywyd yn y byd hwn yn ymddangos yn aml fel tryblith didrefn. Eithr dengys awdwr Llyfr y Pregethwr yn nechreu y bennod hon fod y digwyddiadau sydd yn yr eithaflon oddiwrth eu gilydd yn cymeryd lle yn ol trefn ragordein- iedig. Nid oes y fath beth a damwain o gwbl, ag edrych ar bethau o safbwynt Duw. Gair y creadur yw damwain, un o eiriau ei ddallineb a'i anwybodaeth. Ni cheir mo hono yn ngeiriaduf Duw. Y mae Efe yn gweled y diwedd o'r dechreu, ac yn cadw pobpeth dan ei lywodraeth fanwl. "Efe a bennodd yr amseroedd rhagosod- edig, a therfynau eu preswylfod hwynt," Act. xvii. 26. Y mae manion bywyd o dan sylw a rheolaeth Duw. Y mae Efe yn adwaen ein heisteddiad a'n cyfodiad. (Salm cxxxix. 2). Y mae y Pregeth wr yn enwi wyth ar hugain o helyntion amrywiol bywyd ar ddechreu y bennod hon. Y maent fel gwynebau y lleuad —nid oes dau o honynt yr un fath. Er hyny, nid oes yma annhrefn. Y mae pobpeth yn ei amser—pob un o honynt yn cymeryd y lle a ordeiniwyd iddo ar Time Table y Brenhin Mawr, adn. 1. A mwy na hyny, nid yn unig y mae Llywodraeth Duw yn gwneud un cyfan- waith o helyntion rhyfedd ein bywyd, eithr y mae y cyfanwaith hwnw yn dêg—yn brydferth. Dyna y meddwl gloeyw sydd yn mrawddeg gyntaf yr adnod hon, "Efe a wnaeth bobpeth yn dêg yn ei amser." Nid "yn ei amser" yn unig; ond "yn dêg" yn ei amser. Y mae eu trefn yn brydferth—yn beautiful. Un chwaethus iawn yw Duw yn ei holl drefniadau. Un o amodau prydferthwch yw cyferbyniaeth—o leiaf, dyna un o amodau ei ddatguddiad. Y mae gweled y blodeuyn unig ac eiddil yn gwenu arnom yn nannedd y graig erch a garw yn deffro ein hedmygedd o'i brydferthwch yn fwy na phan ei gwelir mewn cymanfa o'i debyg ar y ddôl fras. Sylwer ar leoliad y ddau ddigwyddiad cyntaf or gŷfres geir yn