Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd 4 A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyk. Newydd.—58. MEDI, 1907. Ben Gyf.^553. CREDOAU A CHYFUNDREFNAU DUWINYDDOL. GAN Y PARCH. J. CHARLES, DINBYCH. |I fu erioed y fath ladd, a'r fath redeg i lawr ar Gredoau ag yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Nid rhyfedd i un brawd doniol ddyweyd ei fod yn tybied fod rhai wedi camgymeryd Dogmas am mad dogs. Nid oedd tua haner y pregethau Saesoneg a wrandawsom yn ystod y cyfnod a nodwyd, fawr amgenach na rhyw faih o feirniadaeth ar Gredöau- Ac am y Wasg—onid oes llawer o bapyrau crefyddol (?) yn byw ar hyn? Ffrwyth hyn i raddau pell iawn yw y cynhwrf duwinyddol presenol. Ni ddywedwn air yn erbyn beirniadaeth deg ar y Credö- au ac ar y Beibl. Y mae pregethwyr a duwinyddion efengylaidd yn croesawu beirniadaeth yr Uwch-feirniaid, ydynt yn credu yn y Goruwchnaturiol, ond ni chymerant eu harwain na'u dysgu gan y t>eirniaid sydd yn gwadu y Goruwchnaturiol. Maent hefyd yn der- byn holl ffeithiau profedig gwyddoniaeth; ac nid yw ond hyfdra anesgusodol mewn unrhyw blaid i honi fod y gwyddonwyr o'u tu hwy. Ond yr ydym yn gwbl sicr y beirniedir y Credöau gan lawer heb erioed eu darllen, heb son am eu deall, a thrwy hyny llwyddir i greu rhagfarn yn meddyliau miloedd o bobì, yn enwedig pobl ieuainc, tuag at y Credöau, a thuag at dduwinyddiaeth, brenhines y Gwyddorau. Deillia un fendith, o leiaf, o'r cynwrf presenol. Tueddír llawer i feddwl a siarad am bynciau crefyddol, ac argyhoeddir rhai y dylent ddarllen llyfrau ar dduwinyddiaeth. Na thybied y darllen» ydd am foment ein bod wedi ymgymeryd â'r gwaith o amddiffyn- ydd y Credöau, fel pe buasent yn anffaeledig. Pelloddiwrth hyny. Yr ydym mor barod ag unrhyw un i wrthod erthygl neu gredo bydded hen, neu bydded newydd, os argyhoeddir ni ei bod yn anghyson â dysgeidiaeth y Testament Newydd. Credwn, er hyny, mai nid difudd fydd rhoddi eglurhad byr ar rai o'r athrawiaethau sylfaenol, sydd wedi eu derbyn fel Credo gan yr eglwys o'r dech- reuad. Un Crist, Un Iawn. Dysga rhai yn y dyddiau hyn fod miliynau o Gristiau, ac fod pob I i;