Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsgedpdd .-" A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Y COMMISIWN MAWR. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. " A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. jáwch gan hyny a dysgwch yr holl genhedl- oecìd, gan eu bedjddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Giân; gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen."—Matthew XXVIII. 18—20. |E lefarwyd y geiriau pwysig a tharawiadol hyn gan ein Harglwydd yn ei Gyfarfod Ymadawol, wrth ffarwelio â'i ddysgyblion pan ydoedd ar adael y ddaear a myned adref yn ol i'r nefoedd. Ni welodd llygad yr un gelyn mo hono wedi iddo adgyfodi o'r bedd; ond fe'i gwelwyd gynifer ag un-ar- ddeg o weithiau gan rywrai o'i ddysgyblion, yn ystod y deugain niwrnod rhwng ei adgyfodiad a'i esgyniad. Ymddangosiadau annysgwyliadwy oedd amryw o'i ymddangosiadau i'w ddysgyblion ar ol ei adgyfodiad, ac ymddangosiadau i bersonau unigol hefyd oedd rhai o honynt. Ond yma, ni a gawn hanes am dano yn ym- ddangos yn ol rhag-drefniad blaenorol, i nifer lliosog o honynt gyda'u gilydd ar ryw fynydd yn Galilea.1 Dyma yr achlysur, ónd odid, at ba un y cyfeiria yr apostol Paul pan y dywed i'r Gwaredwr gael ei weled yn fywr, wedi iddo ddyoddef a marw, gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith.2 Ac yn sicr, nis gallasai cynifer â phum cant o ddynion gamgymeryd trwy dybied eu bod yn ei weled pan nad oedd Efeyno mewn gwirionedd. Yr oedd ein Harglwydd wedi ordeinio i'r cyfarfyddiad pwysig hwn rhyngddo â'i ddysgybl- ion gymeryd lle yn Galilea, am mai yn Galilea yr oedd y nifer liosocaf o'i ddysgyblion yn cartrefu; ac felly yno yr oedd yn fwyaf cyfleus iddynt ei gyfarfod. Yroedd ein Harglwydd wedi trefnu hefyd i'w Gyfarfod Ymadawol gael ei gynal nid mewn dinas na thref, ond ar fynydd, am y caent fwy o dawelwch a llonyddwch mewn lle felly, ac hefyd am nad oedd neb oad ei ddysgyblion, fel y crybwyllwyd, i gael y fraint o'i weled ar ol ei adgyfodiad.3 Dichon mai "Mynydd y Gwynfydau," lle y traddodasai efe ei Bregeth fawr 1 Matth. xxviii. 10,16. 21 Cor. xv. 6. 3 Act. x. 41. IE