Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno."' Cyf. Newtdd.— 65. EBRÍLL, 1908. Ben Gyf.-560. DUWINYDDIAETH PAUL YR APOSTOL. Ysgrif II. GAN Y PARCH. JAMES CHARLES, DINBYCH. Y Bod o Dduw. |'R Gwaredwr a'i waith y rhoddir y lle helaethaf o lawer yn Epistolau Paul. Trefn gras yw ei bwnc mawr ef. Teimlem, ar y cyntaf, y dylem ddechreu traethu ar y Gwaredwr. Dyma y cynllun a gymer rhai awduron. Ond wedi ail-ystyried y mater, nisgallem weled rhesymau digonol dros beidio dilyn y cynllun arferol wrth ymdrin â materion duwinyddol. Gan hyny, edrychwn ar y bod o Dduw, dyn, pechod, y Gwaredwr a'i waith, yn ngoleuni dysgeidiaeth Paul yr Apostol. Dysgeidiaeth Paul am y Bod o Dduw. Hanfod crefydd yw perthynas dynion â Duw, a phrif bwnc duwinyddion yr oesau yw y bod o Dduw. Cymerir bodolaeth Duw yn ganiataol yn y Beibl, o'i ddechreu i'w ddiwedd. Sylwyd lawer gwaith nad oes neb o'r ysgrifenwyr enwog yn cynyg profi bodolaeth Duw. Mae y rheswm yn amlwg. Gan ddynion wedi myned i gyfamod â Duw, ac yn ei adnabod ef, yr ysgrifenwyd y Beibl, ac ni ddaeth i feddwl a chalon neb o honynt i geisio profi ei fodolaeth mwy na'u bodolaeth eu hunain. Duw y genedl Iuddewig, —y gwir a'r bywiol Dduw—oedd Ûuw yr Apostol Paul cyn ei droedigaeth. Gwasanaethai y Duw hwn mewn pob cydwybod dda, i'e, o groth ei fam. Nid oedd raid iddo newid ei Dduw wedi iddo gredu yn Iesu Grist; ond cafodd oleuni newydd ar gymeriad Duw, ac yn enwedig ar ei ras a'i gariad. Yr oedd wedi etifeddu gwybodaeth gyfoethog ei genedl am y gwir Dduw, yr hon a geir yn Ysgrythyrau yr Hen Destament. Dylid cadw hyn mewn cof. i. Bod Anfeidrol, personol, deallol, anghyfnewidiol, a'i hanfod ynddo ei hun yw Duw, yn ol dysgeidiaeth Paul. Cadwn ein golwg yn barhaus ar y gwirionedd mawr hwn. Traetha yn wastad gydag urddas a pharchedig om am Dduw,