Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno.'" Cyf. NEwyDD.—69. AWST, 1908. Hejí Gyf.-564. GENEDIGAETH ORUWCHNATUR10L CRIST. GAN Y PRIFATHRAW DR. PROBERT, BANGOR. "A'r antfel a atebodd ae a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glan a ddaw arnat ti, a nerth y Gornchaf a'th gysgoda di, am hyny hefyd y peth sanctaidd a aner o honot ti a elwir yn Fab Duw."—Luc. lEIMLA llawer yn ddiweddar wrthwynebiad i'r athraw- iaeth o enedigaeth oruwchnaturiol y Gwaredwr. Dichon fod hyn i'w briodoli yn rhanol i'r camddefnydd a wnaed ___ o honi gan yr Eglwys Babyddol. Nid oes neb a greda yn ngènedigaeth Mab Duw a wada fod ei fam yn haeddu parch, gan i3di gael y fath anrhydedd gan Dduw ei hun; ond un peth ydyw parchu enw Mair, tra mai peth arall hollol wahanol ydyw ei haddoli. Fel y deuai gogoniant Crist fwy-fwy i'r amlwg yn hanes yr Eglwys, gogwyddid o hyd i fwyhau y parch i'w fam, nes yr aeth rhai o'r tadau, megys Tertullian, Origen, Basil, ac Epiphanius, i raddau peryglus yn nghyfeiriad Mair addoliaeth, wrth ddal ei bod yn rhy gysegredig i fod yn fam i neb ond y Gwaredwr. Yn y canol- oesau, daeth hyriy yn grediniaeth yn nuwinyddiaeth yr Eglwys, pan y penodwyd gwyliau iddi, ond ni chafodd y grediniaeth ei selio gan Gynghor Trent. Yn y flwyddyn 1849, y mynodd y Pab ei chadarnhau; ac wedi iddo gael ei ddatgan yn anffaeledig, yn y flwyddyn 1870, y daeth Mair addoliaeth i fewn i gredo yr Eglwys Babyddol. Golyga burdeb Mair oddiwrth hyd yn nod bechod gwreiddiol, fel nad ydyw yn un o'r gwaredigion, eithr yn gyfrwng rhwng Crist a'i bobl, y lle a leinw yr Ysbryd Glan, yr hyn a dramgwyddodd luaws ar y Cyfandir, fel y cymerodd adweithiad le yn nghyfeiriad genedigaeth naturiol yr Iesu. Ymddengys fod eraill yn gwrthod yr athrawiaeth o enedigaeth wyryfol, am nad ystyriánt eu bod o nemawr bwys yn hanes y Brynedigaeth, er fod yn arihawdd nodi beiraiaid o aŵdurdod wedi gollwg eu gafael o'r ffáith hon, ac yn dal eu gafael yn dyn yn y Seithiau eraill. Os oes rhai o'r fath yn bod, gellir eu rhybuddio^i fod yn ochel^ar. Gwaith peryglus ydyw tynu darn allan o'r