Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—83] HYDREF, 1909. [Hen Gyf.—578. DUWINYDDiAETH YR EFENGYLAU GAN Y PAJRCH. J. CHARLES, DINBYCH. Ysgrif I. IESU YR EFENGYLAU A CHRIST YR EPISTOLAU. |AE wedi dyfod yn arferiad gan awduron i wahaniaethu rhwng Iesu yr Efengylau a Christ yr Epis+olau. Awd- uron Germanaidd sydd ar y blaen yn hyn; a'r hyn fydd Germani yn wneud heddyw yn y byd duwinyddol, fydd Prydain Fawr ynei wneud yfory. Mae damcaniaethau duwinyddol y Geimaniaid bron mor aml a mwyar duon, a rhai o honynt, trwy drugaredd Duw, yr un mor ddarfodedig. Y mae cewri o dduwin- yddion wedi codi yn Germani, gweithiau pa rai a oleuant yr oes- au; ond y mae yno ddosbarth arall hefyd, mor benrydd ag a droediodd ddaear Duw erioed. Wrth adael Epistolau Paul, a myned at yr Efengylau, nid ydym yn bwriadu ceisio profi y c)Tsondeb sydd ihwng y naill a'r lla.ll, neu geisio dangos mai yr un yw Iesu yr Efengylau a Christ yr Epistolau, eto hawdd fydd i'r darllenydd ganfod y daw y mater hwnw i mewn i'r ymdrafodaeth, er megisyn anuniongyrchol. Mewn ysgrifau fel hyn, nid buddiol fyddai myned i mewn i fanylion hanes lesu Grist, a cheisio dangos fod y naill ymadrodd a'r Uall yn awdurdodedig, fe' y gwna Dr. James Deney, yn ei lyfr godidog ar "Jesus and the Gospel" Ar y cyfan, cymerwm y safle a gymer efe. Ofnwn, er hyny, ei fod yn ildio gormod am Efengyl Ioan. Ymddengys i ni fod ymadroddion cyf- oethocaf yr Efengyl hono y tu hwnt i'r posiblrwydd i Ioan na neb arall allu ei saeraio. Nis gallai neb lefaru yr ymadroddion am berthynas y Tad a'r Mab, ond y tragwyddol Fab ei hunan. Cyn myned rhagom i draethu ar wahanol bynciau duwinyddol, ar wahan fel y ceir hwynt vn yr Efegylau, cyfyngwn ein sylwadau yn yr ysgrifhoni 2 E