Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Y DIWEDDAR BARCH. DR. WlLLIAM REES, (HIRAETHOG. ) YDA y rhifyn hwn o'r Dvsgedydd, yr ydym yn anrhegu ein darllenwyr â Darlun o un a ystyrid yn dywysog yn mhlith beirdd yn gystal ag yn mhlith pregethwyr penaf ei oes. I hynawsedd ei fab, y Parch. Henry Rees, cofier, yr ydym yn ddyledus am y darlun rhagorol hwn o'i hybarch dad. Yn unol â'r drefn arferol, gweddus cysylltu a'r darlun ychydig grybwyllion bywgraffyddol am y gwrthddrych athrylithfawr. Trefn dda yw hon yn ddiau, oblegid gwasanaetha i gadw yn fyw yn nghof y lluaws, hanes gweithredoedd a rhagoriaethau enwogion ymadaw- edig. Nac anghofìer y cynghor Apostolaidd, —"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffydd y rhai dilynwch, gan ystyned diwedd eu hymarweddiad hwynt." Yn Llinsanan, sir Ddinbych, feì y mae yn hysbys ddigon, y bu i Dr. Rees (Hiraethog), dreulio y rhan foreol o'i oes. Yn ei gofiant desgrifia "Scorpion" y drefian neillduedig hono fel y canlyn,— "Llansanan, cartref genedigol Hiraethog, asaifynmhen uchaf dyffryn bychan prydferth ar y fíordd o Ddinbych i Nant Conwy; gwisgir ei lechweddi yn gystal a'i waelodion i raddau â choed, ac ymgyfyd y bryniau a'r mynyddoedd i gryn uwchder o'r ddeutu, a dyfrheir ef yma ac acw gan ganghenau o fân ffrydiau, y rhai a red- ant o ystlysau y moelydd gerllaw, a chan yr Aled sydd yn ymddol- enu drwy ei ganol ar ei thaith i gyfaríod a'r Elwy sydd ychydig islaw." Ac am amaethdy y Chwibren Isaf, a saif yn nghesail mynydd Hiraethog, lle y ganwyd Dr. Rees ar yr 8fed dydd o Dachwedd, yn y flwyddyn 1802, ceir gan yr un awdwr y desgrifiad nodweddiadol a ganíyn.—"Ac yma o'r neilldu, yn nhawelwch un- igaidd y cwm, yn nghymdeithas a cheinion dihalog natur, yn ngolwg niwl bolwyn y moelydd, ac yn nghlyw cyngherdd y gwynt, brefiad- au y defaid, a swn dyfroedd yr Aled, y dygwyd ef i fyny, ac yr ymarferodd â galwedigaeth ddifyrlawn y bugail, ac yr yíodd o awelon iach y bryniau oamgylch." Gyda bod yn amaethydd diwyd, yr oedd ei dad hefyd yn flaenor cyfrifol gyda'r Methodistiaid,—yn ddawnus at rybuddio a chynghon, ac yn hynod rymus a gaíaelgar