Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DTSGEDTDD. DEFOSIWN. GAN Y PRIFATHRAW D. ROWLANDS, B.A., (üEWI MON\ JARLLENAIS dro yn ol am weinidogieuanc, yrhwn, er mwyn * perffeithio ei wybodaeth ysgrythyrol, a aeth am daith drwy wlad Canaan. Wedi iddo ddychwelyd, digwyddai fod yn ymddiddan âg aelod o'i gynulleidfa, ffermwr wrth ei alwed- '&aeth, am y pethau dyddorol a welsai. a'r lleoedd enwog mewn han- es'aeth y cawsai y fraint o ymdroi ynddynt. Siaradai yn frwdfrydig arn Jerusalem a Jericho, Bethlehem a Nazareth, Gethsemane a Chal- raria, a lluaws o fanau eraill ag y mae eu henwau yn swyno yr oe?oedd. Yr oedd yn wanwyn sych dros ben y flwyddyn hono, a'r Cnydau yn dioddef mewn canlyniad; ac am hyny yn bur ddisymwyth ^yma y ffermwr diddychymyg yn tori ar ei stori—"Esgusodwch fi" nìeddai, "ond sut olwg sydd ar y maip yno eleni?" Tybiaf y gellir edrych ar y chwedl hon fel enghraifft eithafol o'r ^ateroliaeth dybryd sydd yn nodweddu y genhedlaeth bresenol. Yn *"ny fynych ystyrir daioni tymhorcl y penaf peth mewn bywyd, t^Wydda y mwyafrif am sefyllfaoedd uchel, dylanwad bydol, a bywiol- jaeth foethus; a chan fod cyfoeth yn anhebgorol i gyrhaedd y pethau nyn, y mae casglu cyfoeth bellach yn fath o wallgofrwydd ag sydd wedi cymeryd meddiant o bob gradd mewn cymdeithas. Gellir crynhoi sylwedd doethineb y byd i un gorchymyn — "Gwnewch arian"—ac edrychir ar fywyd cwbl ymroddedig i hyn o orchwyl yn deilwng o Urddas bod anfarwol. Pe buasai y cyflwr truenus hwn yn gyfyngedig hollol i'r byd oddi- allan — pe buasai bydolfrydedd i'w gael yn unig yn mysg pobl ddigrefydd "^ prin y buaswn yn galw sylw ato yn yr ysgrif hon. Ysywaeth nid uyna íely mae; ondgorfodir ni i gyfaddef fod diffyg defosiwn yn ffynu J^addau helaeth yn mhlith crefyddwyr proffesedig, a'i fod i'w briodoli 1 r ffaith eu bod yn analluog i ymddyrchafu uwchlaw syniadau diraddiol y byd o'u hamgylch. Yr ydys yn byw gan mwyaf mewn awyrgylch *°esol Ue nad oes i Dduw gydnabyddiaeth, lle nad yw nerthoeddy byd a ddaw yn cael eu teimlo, lle y dysgir yn wastad yr athrawiaeth war- adwyddus - uBwyta-«n ac yfwn, canys yfory marw yr ydym;" ac nid rhyfedd fod y natur ysbrydol a anmharwyd yn y cwymp yn rhy wan i ^rthsefyll bob amser ei dylanwad andwyol. Y mae yn hen ddywediad "nad oes dim mawr yn y byd ond dyn," ^Ç "n^d oes dim mawr ipe*vn dyn ond ei enaid;" a gellir ychwanegu