Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. "ÌSTgyf—50ÎT" HYDREF, 1902. Cyf. Newydd.—367. CYDYMDRECH GYDA FFYDD YR EFENGYL.* "Gan gydymdrech gyda ffydd yrEfengyl."—Phil. i. 27. GAN Y PARCH. JOSIAII JONES, MACHYNLLETH. |N y drydedd adnod ar hugain, y mae yr Apostol yn hysbysu y Philipiaid ei bod hi yn gyfyng arno o'r ddeutu, gan fod ganddo " chwant i'w ddatod a bod gyda Christ," gan y credai fod hyny yn Uawer iawn gwell; ond tybiai fod aros yn y cnawd yn fwy angenrheidiol oblegid y Philipiaid. Oherwydd hyn, gwyddai mai cael aros yny cnawd am ryw gymaint yn mhellach a fyddai oreu iddo, er mantais a gorfoledd y Philipiaid. Credai hyn am fod yr hyn sydd yn angenrheidiol, yn ol trefniadau Duw, i gael y blaen ar yr hyn sydd yn boddhau. Lles yn gyntaf, boddhad wed'yn. Ond sut bynag y byddai iddo, y mae efe, yn adnod y testyn, yn ar- gymhell y Philipiaid i ymddwyn yn addas i Efengyl Crist; "fel," medd efe, "pa un bynag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absenol, y clywyf oddiwrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl." Ac y mae y tri pheth hyn yn dangos beth a olygai yr Apostol wrth ymddyg- iad addas i'r efengyl —fod y Philipiaid yn sefyll, "ynun ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda fFydd yr efengyl." Ac y mae o bwys i ni gofio fod y tri pheth hyn yn anhebgorol i ninau eto, os mynwn ym- ddwyn yn addas i'r efengyl. Ac y mae yn amlwg fod yr Apostol yn gosod pwys mawr ar fod ym- ddygiad y Philipiaid yn addas i efengyl Crist. Y mae yr ymadrodd, "yn unig," yn awgrymu hyny—"yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist." Fel pe dywedasai, o flaen pob peth, neu uwchlaw pob peth, "ymddygwch yn addas i efengyl Crist." Yn awr, pallai yr amser i ni fanylu ar y tri pheth hyn; ac felly; ni a gyfyngwn ein hunain at y peth olaf o'r tri y cyfeirir atynt gan yr Apostol —"Gan gydymdrechgyda ffydd yr efengyl." Ni a geisiwn ymholi. I. Am beth YN nglyn a ffydd yr efengyl y dylem gydym- DRECH?~Yn y fan hon, efallai mai gwell i ni hysbysu ein bod yn golygu wrth ffydd yr efengyl, y gwirioneddau pwysig a grasol sydd yn gynwysedig ynddi - nid ein ffydd bersonol ni yn yr efengyl; ond, yn hytrach, y gwirioneddau mawr cynwysedig ynddi, y rhai y dylem * Cyfansoddwyd y bregeth ganlynol ar gais Cyfarfod Chwarterol Maldwyn, i'w phregethu yn Nghyfarfod Penybontfawr, Ebrill 17eg a'r 18fed, 1902.