Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DY8GEDTDD. SAFON ADDOLIAD. GAN Y DIWEDDAR BARCH. P. HOWELLS, FFESTINIOG. . " Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant Ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd."—Ioan iv. 24. # MAE dau neu dri o gwestiynau pur bwysig yn ymgynyg i'r meddwl gyda golwg ar y gwaith o addoli. Y cwestiwn cyntaf y w, A oes addoli i fod o gwbl? A oes rhywbeth yn natur foesol dyn yn galw am iddo wneud hyn? Ac a oes rhyw wrthddrych yn bodoli yn rhywle o'r tu allan i ddychymyg dyn a chanddo hawl i ofyn gwasanaeth felly oddiwrtho? Y mae yn wir fod llawer iawn o addoli wedi bod yn y byd erioed, ac y mae y rhai a wnant hyny wedi arfer edrych ar y peth fel gwaith pwysicaf eu by wyd; ond ai tybed fod rhywbeth mewn gwirionedd yn galw am y cyfryw beth? Ai ntd rhywbeth ydyw sydd wedi ei ddyfeisio gan ddynion er mwyn caethiwo meddwl yr anwybodus, a'i wneud yn offeryn gwasaidd i'w hamcanion uchelgeisiol eu hunain? Y mae rhai yn ateb y cwestiwn pwysig hwn yn nacaol.—Dywedant nad yw addoli yn angenrheidrwydd moesol yn natur dyn, ac nad oes ynddo duedd i wneud hyny, ond y duedd a fegir trwy ddylanwad addysg ac esiampl; ac am wrthddrych addoliad, nad oes yr un prawf digonol fod unrhyw wrthddrych yn bodoli a chanddo hawl i ofyn gwasanaeth o'r fath oddiwrth neb ar gyfrif yr hyn ydyw ynddo ei hun, nac ar gyfrif ei berthynas â'r byd. Ond ymddengys mai ychydig wedi y cwbl sydd yn barod i ateb y cwestiwn yn y ffordd hono, o leiaf mewn geiriau. Y mae llawer yn ei ateb felly yn barhaus mewn ymddygiad, nad ydynt yn barod i wneud hyny mewn geiriau. Nid ydynt hwy eu hunain byth yn addoli; ond nid ydynt yn barod i ddweyd na ddylid gwneud hyny, ychwaith, Ond am y nifer luosocaf o'r teulu dynol, y maent yn cydnabod y dylid addoli, ac yn edrych ar hyny fel peth ag y mae eu diogelwch a'u ded- wyddwch penaf yn gysylltiedig mewn rhyw fodd neu gilydd âg ef. Cwestiwn arall sydd yn ymgynyg i'r meddwl yw, Pvsy a ddylìd ei addoli? Beth yw y priodoliaethau, neu y perthynasau, sydd yn rhoddi hawl i'r gwasanaeth hwn? A oes mwy nag un gwrthddrych yn meddu y priodoliaethau hyny, acyn sefyll yn y berthynas hono â'r teulu dynol? Pwy yw y gwrthddrych, neu y gwrthddrychau hyny? a pha fodd yr ydys i'w hadnabod? Y mae y teulu dynol wedi bod yn rhanedig iawn, trwy yr oesau, ar y cwestiwn mawr hwn, yn nghyd â'r cwestiynau eraill sydd yn ymgodi o hono. Tra y mae y mwyafrif mawr yn cytuno '•■•'. I K