Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. IONAWE, 18 4 7, COFIANT Y FLWYDDYN 184 6, Cafodd ararai o'm chwiorydd gofnodi eu hanes yn y Dysgedydd o'm blaen. Caniatewch i minnau yr un fraint. Y mae Bywgraffiadau wedi dyfod yn bethau cyffredin yn awr. Y mae rhai wedi diflasu arnynt. Dywedant mai gwneud llyfrau er mwyn elw ydyw y cwbl—fod gormod o arganmoliaeth ynddynt;—"A fyno glod bid farw;"—eu bod yn rhy feithion o lawer, a lluaws o bethau eraill; ond mi a ymrwymaf i ymgadw oddiwrth y pethau hyn oll, ar y gobaith y caf ddarlleniad genych. Y mae gwylder, yn naturiol, yn meddiannu un a fyddo yn ysgrifenu ei Gofiant ei hun—i ddweyd ei orchestion ei hun heb ymffrost, i adrodd ei golliadau ei hun heb ddarnguddio, ac yn mhob modd i roddi bywgraff- iad cywir. Ond y mae genyffi fantais er ymgadw at hyn ragor Uawer a fu yn ymgymeryd â'r gorchwyl o'm blaen. Nid ar annogaeth cyfeillion yr wyf yn ysgrifenu. Nid er mwyn treio fy llaw yr wyf yn anturio at y gwaith. Yr wyf yn ysgrifenu yn fy henaint, ar frinc y bedd, wrth ffarwelio â chwi. O ran hyny, ni waeth i mi fyned yn mlaen heb wneud yr un dyheurad, a gadael i chwi farnu am fy nybenion yn ysgrifenu. Nid yw hirhoedledd na byrdra oes ond ymadroddion cymhariaethol, ar y goreu. Nid oes dim hynodrwydd yn fy hanes, o ran fy mod yn hynach na'm chwiorydd a fu o'm blaen. Y mae rhyw ymlusgiaid, oes pa rai nid yw ond un awr: pe byddai i un o'r rhai hyny fyw am ddiwrnod, ystyrid ef yn marw yn hen. Y mae creaduriaid eraill yn byw am ganrifoedd: pe byddai i un o'r rhai hyny farw yn ddeng mlwydd ar hugain oed, ystyrid fod un ieuanc wedi cwympo i'r bedd. Felly y mae hirhoedledd i'w gyfrif ar ryw ystyr heblaw nifer blynyddoedd. Myfi yw y ddiweddaf o deulu llnosog a hynatìaethol. Medraf ddangos fy achau yn llinell ddidòr yn ol hyd yr amser y gosodwyd sylfeini y ddaear, y cydganodd ser y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw. Am amser uniongyrchol fy ngenedigaeth, y mae amrywiaeth barnau yn y byd. Ond gan gymeryd yn ganiataol fod y Cymry yn ddoethach na'r un genedl arall, dilynaf eu hanesiaeth hwy, a nodaf ddydd fy ngenedig- aeth ar y cyntaf o Ionawr, ar y moment y tarawodd awrlais mawr St. Paul yr hysbysiad o fod fy chwaer wedi trengu. Bu fy ngharenydd farw, fel y dywedais, y moment y ganwyd fi, ac amgylchiadau ei thranc hi a roddes i mi fywyd ac anadl, a phob peth oll. Pe gallasai hi fyw yn hwy, ni buaswn i ar gael yn awr; a gwnaeth llawer eu goreu tuag at estyn ei hoes. Yr oedd y rhai a ddysgwylient am fy ngenedigaeth yn hysbys o'r amser, ac yn effro ar eu traed yn cadw watchnight, er cael fy nghroesawu i'r byd. Yr oedd yr olwg arnynt yn rhyfedd o wahanol yn eu gwyliadwriaethau. Yr oedd lluaws yn gorym- deithio yr heolydd ar y pryd, a chyda thabyrddau a chwibanoglau yn trystio, fel pe y mynasent foddi ocheneidiau angeuol fy chwaer. Yr oedd eraill yn ymdroi yn eu bloddest a'u dawns, gan ystwytho eu cymalau i redeg i'm cyfarfod i ddangos croesaw i mi. Yr oedd y plantos hwythau