Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. EBRILL, 1847, ETHOLEDIGAETH, SYLWADAU AR Y DDADL A FU RHWNG MEISTRI ELLI9 HUGHES, A ROBERT JONE9, YN Y DYSGEDYDD AM Y BLYNYDDOEDD 1845—6. CAN Y COLYCYDD. Wrth ddarllen yr holl ddadl, tueddir ni i wneud y sylwadau canlynol:— . I. Pa Etholedigaeth sydd mewn dadl. 1. Nid Etholedigaeth i swyddau gwladol nac eglwysig, mewn amser na chyn amser, ydyw; megys y golygir yn 1 Sam. 10. 21; Ioan 6. 70. 2. Nid Etholedigaeth i frcintiau gwladol na chrefyddol ydyw, megys y dywedir am genedl Israel yn 1 Bren. 3. 8; Esay 41. 8, 9. 3. Nid yr anwylder a ddengys yr Arglwydd mewn amser tuag at ei bobl wedi eu dygiad i gymmod ag ef yn Nghrist ydyw. Gelwir rhai yn etholedigion o herwydd eu dygiad i sefyllfa o anwylder gan Dduw, ac nid fel etholedigion yn arfaeth dragwyddol Iehofa. " Etholedigion Duw, santaidd ac anwyl," Col. 3. 12. "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?" Rhuf. 8. 33. " Oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos ?" Luc 18. 7. Credwn fod y ddwy blaid yn cytuno yn hollol am bob un o'r ystyriaethau uchod, yn ddiwahaniaeth. Y mae yr holl ddadl, gan hyny, yn nghylch Etholedigaeth bersonol a thragwyddol yn Nghrist i ras a gogoniant. Haera E. H. fod yr Etholed- igaeth hon yn ysgrythyrol, a haera R. J. nad ydyw. II. Natür ye Etholedigaeth hon a'i chyn- nwysiad. 1. Nid yw y "gadael eraill i farwolaeth," a'r "penderfynu peidio cadw dim un ond y rhai a gedwir," a briodolir gan R. J. i E. H. tudal. 115, bl. 1845, yn un rhan o honi. Gweithred benar- glwyddiaethol ydyw ethol ac arfaethu achub; ond nid yw y penderfynu gadael i rai fyw a marw yn eu pechodau, neu benderfynu peidio cadw, &c. ddim amgen na pheidio gweithredu, neu benderfynu neu arfaethu dim; neu, fel y dywed un, "Arfaethu peidio arfaethu." Nid yw y penderfynu, arfaethu, neu fwriadu tybiedig hyn, yn effeithio dim ar neb o'r gwrthddrychau gadawedig mwy nag hebddo. 2. Nid yw "penderfynu damuio y rhai a ddemnir," (neu a gosbir) y sonir am dano gan E. H. tudal. 149, bl. 1845, yn dal un berthynas â'r Etholedigaeth dan sylw. Oblegid rhaid fod y fath benderfyniad i ddamnio, neu gosbi, yn weithred berthynol i Dduw fel Llywodraethwr moesol; ond perthyn iddo fel Penarglwydd grasol yn unig y mae Etholedigaeth. 3. Nid yw gwrthodiad neb pechaduriaid yn dal un berthynas â'r Etholedigaeth hon. Pan sonir am yr Arglwydd yn gwrthod rhai, cymer hyn le mewn canlyniad i'w pechodau. Pan gynnygiant eu gwasanaeth rhagrithiol iddo yn eu pechodau, nid yw yn eu cymeradwyo, nac yn eu derbyn hwy na'u gwasanaeth; y maent fel " arian gwrthodedig " ganddo. Ond, craffwn, ymddygiad yw hwn etto perthynol i Dduw fel Llywodraethwr, ac nid fel Penarglwydd grasol. Pechod yn y gwrthodedig sydd yn achosi y gwrthodiad a'r anghymeradwyaeth; ond gras yn Nuw yw yr unig achos o'r Etholedigaeth mewn dadl. Taera dilynwyr J. Wesley nas gellir dal Etholedigaeth heb ar yr un pryd ddal gwrthodedigaeth ; a chan nad oes gwrthodedig- aeth, nad oes ychwaith yr un Etholedigaelh o'r fath ag a gredir gan Galfiniaid: ond nid y w y geiriau elhol a gwrthod yn eiriau cyferbyniol, a'r fath gysylltiad rhyngddynt fel nad yw un yn bodoli heb y Ila.ll. Y gair cyferbyniol i ethol yw gadael, a'r gair cyferbyniol i wrthod yw cynnyg. Cyn y gellir gwrthod y mae yn rhaid fod cynnyg; ond ni raid fod cynnyg lle y byddo dewis. Y mae dewisiad yn aml yn cymeryd lle heb un cynnygiad, ac o ganlyniad heb un gwrihodiad. Y mae gwrthodiad, gan hyny, yn mhob ystyr y cymerir y gair, yn anfeidrol bell oddiwrth fod yn perthyn i Etholedigaeth rasol Duw.—Ond dy- raunem sylwi yu mhellach,— 1. Fod amryw ymadroddion ysgrythyrol yn cynnwys a darlunio yr Etholedigaeth hon; megys, " Ordeinio i fywyd," Act. 13. 48: "Dewis," Iago 2. 5: " Rhagluniaethu ifabwys- iad," Eph. 1. 5; Rhuf. 8. 29: "Arfaeth yn ol Etholedigaeth gras," Rhuf. 9. 11: "Apwyntio," 1 Thes. 5. 9: "Bwriadu," Esay 14. 27; Jer. 51. 29, &c. y rhai a'n harweiniant i gredu mai y gangen hono o arfaeth Duw ydyw sydd yn sicr- hau iachawdwriaeth tyrfa ddirifo bechaduriaid. Nid oes yr un o'r ymadroddion ysgrythyrol sydd yn ei darlunio yn arwyddo ychydig rifedi mwy na llawer; ond gall yr holl ymadroddion gyfeirio at lawer yn llawn cystal ac ychydig: a cham â golygiadau Calfiniaid ydyw cysylltu â hwyut mai ychydig rifedi yw y rhai a gedwir. Na, na, credwn yn hytrach na bydd Iesu wedi ei gyflawn ddiwallu heb weled y dyrfa fwyaf ar ei ddeheulaw yn y dydd mawr diweddaf,—-" O lafur ei enaid y gwel, ac y diwellir," &c. 2. Y mae y geiriau ethol, dewis, &c. yn y cysylltiad hwn, yn benaf, os nad yn unig, yn dal perthynas â phersonau yn hytracb. na