Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." JHngen gtator ûn f^gltonsi:—Jitoggtab Cipròbûí (ÌrDmtts. (gan y parch. w. griffith, caergybi). î" Diwygiad crefyddol, beth ydyw ? Bywyd ysbryâol anghyffredin o nerthol a chyffredinol yn yr eglwys ac ar y byd. Yn ei berthynas â'r byd, y mae yn adgyfodiad. Y mae dynion y byd yn feirw mewn cam- weddau a phechodau—yn feirw i Dduw a phethau Duw, i grefydd a phethau crefydd, fel y mae corff marw i'r byd a phethau y byd. "Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad, trwy yr hwn y carodd eíe ni, ie, pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ." Yn ei berthynas â'r eglmjs, y mae yn adfywiad. Y byd marw yn cael ei adgyfodi, a'r eglwys farwaidd yn cael ei hadfywio. Mae y bywyd hwn yn cynyrchu teimlad a gwres, gwaith a chynydd ysbrydol. Mae ei ddeiliaid wedi eu dwys- bigo yn eu calonau, yn teimlo yn ddwys yn eu hachos eu hunain, ac yn ymofyn gyda miloedd y Pentecost, " Beth a wnawn ni? " a llawer wedi methu peidio a gwaeddi felly yn y gynulleidfa fawr. Erbyn teimlo fel hyn yn eu hachos eu hunain, nis gallant lai na theimlo yn gyífelyb yn achos eraill hefyd. Wrth weled y troseddwyr, maent yn gresynu ac yn sychedu am wneud rhywbeth a phobpeth tuag at eu dychweliad a'u hachubiaeth. Heb geisio eu llesâd eu hunain yn unig, y maent fel Paul yn barod i ymwneud yn bobpeth i bawb, fel y gall- ont yn hollol gadw rhai. Ac yn raddoí, rnaent yn d'od i deimlo dros achos a gogoniant Duw yn fwy na'r cwbl. Fel y canai angylion yr eiliant hwythau, " Gogoniant yn y goruchaf i Dduw " yn gyntaf, ac wedi hyny " tangnefedd ar y ddaear, i ddynion ewyllys da." Hefyd, mae bywyd diwygiad crefyddol yn cynyrchu gwres cymysg- edig o gariad a sel—sel i I)duw, a chariad at Grist, yn peri na byddom na chlaiar nac oer, eithr yn wresog yn yr ysbryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd. Fel y mae teimlad a gwres yn arwyddion mewnol o íywyd crefyddol, felly y mae ymroddi i waith yr Arglwydd, a chynyddu ynddo, yn arwyddion allanol o hono. " Pan ddisgyno Ýsbryd yr Ar- glwydd ar Israel fel gwlith, y rhai a arosant dan ei gysgod ef a ddy- chwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden; bydd ei goífadwriaeth fel gwin Libanus: Ephraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wne.lwyf âg eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno. Myfi sydd fel fTynidwydden îr : o honof fi y ceir dy ffrwyth di." Chwefror, 1879. d