Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R HWN Ylt UNWYD "YR ANNIBYNWR." I gtfnybb a âlxx ú foiuu%r û'r §âbí nufon; Hr^í^atr, (gan y parch. w. nicholson, le'rpwl.) Credwyf nad meddwl y Dr. 0. Thomas, yr hwn a enwodd y pwne hwn yn y cyfarfod diweddaf, ydoedd y pwysigrwydd i bregethau orphwys yn deg a chyson â beirniadaeth gywir ar ryw ranau o'r ysgrythyr fel testynau neu sylfaeni; nac ychwaith, defnyddioldeb eglurebau ysgrythyrol, canys darllenwyd eisoes gan frodyr teilwng, bapyrau galluog a gwerthfawr ar y materion hyn; er mai prin y tyb- iwyf ei fod yn golygu i'r olaf gael ei gau allan yn llwyr o derfynau y papyr hwn. Ar ol dewis testun y bregeth, ac ar ol dwyn y prif fater, a'r cynllun fwriedir fabwysiadu wrth ymdrin âg ef i'r golwg, yn ngweithiad allan y cynllun hwnw yn adeiladiad yr adeilad, pa fath ddefnydd a ellir wneuthur o'r ysgrythyr santaidd? ¥n y modd yma y deallwyf y pwnc, ac y ceisiaf ymdrin âg ef. Md ydyw y pregethwr i gael ei gyfyngu yn null na defnyddiau gweithiad allan ei bregeth, ond gan y syniad sydd yn ei feddwl o'r lryna ddylai pregeth fod, a'i allu yntau trwy ddefnyddiad pobgwybod- aeth yn ei feddiant, ac at ei alwad, i sylweddoli y cynsyniad hwnw. Mae teml pob gwyddor a chelf yn agored iddo. Mae iddo ryddid i ddwyn eu harogldarth i'w bregeth, a thrwy hyny, byddant hwythau, megys y gweddai iddynt, yn dwyn " anrheg i'r Öfnadwy." Morwynion ydyw y celfau a'r gwyddorau ; a phan fyddo pregeth wedi ei seilio yn gywir yn ngair Duw, yn gyson â deddfau anianeg, ac uwch-anianeg, ac wedi ei haddurno â blodau a thlysau o'r cyfeiriadau hyn, gellir cymhwyso ati y geiriau a leferir am ferch y Brenin—" Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn. Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin; y morwynion, y rhai a ddeuant ar ei hol, a ddygir atat." Ond er fod rhyddid gan y pregethwr i drethu pob gwyddor a chelf, eto, y Beibl ydyw prif ffynonell ei gyfoeth. Mae paradwys gwybodaeth yn ei wahodd i mewn i fwyta "o bob pren dymunol i'r golwg a daionus yn fwyd;" ond iddo ef, gwybodaeth ysgrythyrol ydyw " pren y bywyd, yr hwn sydd yn nghanol yr ardd." ■ Faint bynag o ddefnydd a ddygir i mewn i'r bregeth o'r byd gwyddonol, o'r Beibl y dylid cloddio y rhan fwyaf o feini yr adeiladaeth; ac oddiyma y cloddir " y maen penaf." Darllenais bregethau (?) yn y rhai yr hollol anwybyddid J llyfr santaidd, heb ynddynt na dyfyniad na chyfeìriad at na ftaith nac hanes o'r datguddiad dwyfol, oddigerth y testun, yr hwn a wasanaethai Darllenwyd sylwedd yr ysgrif uchod yn Nghyfarfod Undeb Gweinidogion y gwahanol enwadau, yn Liyerpool a Birkenhead, a gynaliwyd yn Everton Village, Mai 4ydd, 18T8. Yn y gadair, y Parch. J. Hughes, D.D. Ar gais y cyfartod argrefnr hi. Ebrill, 1879. H