Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r iiwn yr unwyd "yr annibynwr." ---------------------+~++--------------------- (gan y parch. l. probert, portmadoc.) n.-Y GENEDL YN MEDDIANU CANAAN. Wrth edrycli yn ein hysgrif gyntaf ar wlad Canaan yn cael ei haddaw yn breswylfod i'r genedl oedd i dderbyn' datguddiad goruwchnaturiol oddiwrth Dduw, ac i fod yn geidwaid yr ysgrythyrau i ddynion, awgrymasom y buasai yn rhaid iddi fyned dan ddysgyblaeth lem a maith, cyn bod yn addas i feddianu a mwynhau y tir addawedig: "Bydd dy had di yn ddyeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'u gwasanaeth- ant, a hwy a'u cystuddiant bedwar can' mlynedd," Gen. xv. 13. Mae Gosen yn arfer rhagflaenu Canaan yn hanes gweinyddiadau Duw. Cadw yn fyw "bobl lawer" noda Joseph yn amcan g oruwchreolaeth Duw dros amgylchiadau ei fynediad i'r Aipht; ond dia: ûheu fod angen y wlad ddyeithr hon ar yr Israeliaid i'w cymhwyso ar gyfer eu gwlad euhunain. Ms gwyddom pa faint o leshad a dderbyniodd yr Aipht- iaid oddiwrthynt hwy, heblaw y gwasanaeth a wnaeóh Joseph wrth arwain yr ymerodraeth, â math o feudal system, drwy un o'r cyfyng- derau penaf yr aeth teyrnas erioed yn ddiogel; ond dcrbyniasant hwy les mawr oddiwrth yr Aiphtiaid drwy ystod eu harosiad yno. Yr oedd ymsefydliad llwyth o fugeiliaid fel yr Israeliaid yn yr Aipht—cryd gwareiddiad y byd, yn ysgol dda iddynt ddysgu trafod amgylchiadau Canaan. Yn mhell cyn bod Ehufain, nac Athen, na Carthage, yn cael sylw yn y gorllewin, na chenym fawr o hanes am Assyria yn y dwyrain, yr oedd yr Aipht wedi ymgodi yn uchel yn y celfau, ac yn ol pob tebygolrwydd, yn y gwyddorau hefyd;* fel y cafodd Moses ei fagu yn y wlad oreu i fod yn gymhwys i dynu allan lywod-ddysg i'r genedl. Grwir fod llawer o bethau yn nghyfansoddiad y ddwyf-lywodraeth Iuddewig na cheid dim tebyg iddynt mewn unrhyw deyrnas ar wyneb y ddaear, a phethau na allesid eu cael heb ddatguddiad goruwchnatur- iol, Lef. xviii. 3. Ond mae yn eglur fod yr hwn "oedd ddysgedíg yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid" wedi gwneud rhyw gymaint o ddefnydd o'r ddoethineb hòno wrth fifurfìo cyfansoddiad y llywodraeth Iuddewig. Er mai ymerodraeth gastaidd oedd yn yr Aipht, cynwysai 36 o daleithiau (nonus); perthynai breintiau arbenig i'r oífeiriaid (G-en. xlvii. 22, 26); anghefnogid trafnidiaeth dramor, ac ymdrechid cadw y deiliaid rhag ymgymysgu â'r cenedloedd cylchynol. Os felly, hawdd canfod i • Ni wyddys pa mor eang oedd gw}'bodaeth wyddorol yr Aiphtiaid j'n y cyfnod dan sylw, ond dengys arwyddion y sidydd (signs of the zodiac), a ddygrwyd o nenfwd teml Denderah i Museum Paris, yn y flwyddyn 1821, eu bod yn meddu gwybodaeth seryddol yn foreu iawn, a phrofa eu hadeiladwaith a'u peirianwaith eu bod yn hyddysg mewn mesuroniaeth ac athroaiaöth natmiol. Mehetin, 1879. m