Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: A'K HWN YE TJNWYD "YR ANNIBYNWE." - . ..-------------------. ^ « 0 i ^ | %xdtûmi ^omnúba, M gr tyluût â git fIgfrsm ftüs^ (GAN y parch. josiah jones, machynlleth.) Hysbys yw fod llyfrau Moses yn cyrhaedd yn mhellach yn ol na'r Trefniant Moesenaidd, ac yn cynwys Trefniantau eraill y Duw mawr yn ei berthynas â'n byd ni. y rhai oeddynt yn flaenorol i hwn. I lyfrau Moses yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau hanesyddol perth- ynol i'r Trefniant o Weithredoedd ac o Eas yn Eden; ac i'r dadblygiad helaethach o'r Trefniant grasol hwnw drwy'r cyfnod patriarchaidd. Yr oedd y rhai hyn yn flaenorol i Moses, er mai i Moses yr ydym yn ddyledus am yr hanes am danynt; ac y maent, felly, yn ;;orwedd y tu allan i'r maes cynwysedig yn ein testun. Wrth y Trefniant Moesenaidd yr wyf yn golygu y cyíamod difrifol hwnw rhwng Duw a'r genedl Iuddewig, yr hwn a wna thpwyd drwy Moses fel cyfryngwr. Yr ydym yn cael hanes y cyf;Lmod hwn yn Exod. xix. 3—9; a bydd yn fanteisiol i ni sylwi ar yr h rn a ddywedir yn& "A Moses a aeth i fyny at Dduw, a'r Arglwydd a alwodd arno ef ¥r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth ('ŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; chwi a welsoch yr hyn a wnaethum i'r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais chwi ataf fy hun. Yn awr, gan hyny, os gan wrando y gwran- dewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd, canys eiddo fi yr holl ddaear: a chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o oífeiriaid, ac yn genedlaeth santaidd. Dyma y geiriau a lefari di wrth feibion Israel. A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchymynasai yr Arglwydd iddo. A'r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug dracheín eiriau y bobl at yr Arglwydd. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddyddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r Arglwydd." Yr ydym yn gweled yma beth ydoedd seiliau, telerau, rhagorfreintiau, a chyfryngwr y cyfamod hwn. Y seiliau penodedig ydynt yr amlygiadau rhyfeddol a wnaethai Duw o hono ei hun yn yr Aipht, mewn gallu anghydmarol tuag at yr Aiphtiaid, a thynerwch a gras tuag at yr Israeliaid. Y telerau ydynt, "Gwrando ar fy llais, a Awst, 1879. Q