Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ì (Egfaül ŵgluîpig. "Y DDWY FIL." Nid oçs angen am i ni hysbysu ein darllenwyr fod Ym- neillduwyr y deyrnas—yn enwedig yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr—yn brysur ymbarotoi gyferbyn â chylch- wyl goffaol y " Ddwy Fil," meddant hwy, a gollasant eu bywiolaethau yn yr Eglwys yn y üwyddyn 1662. Dydd mawr yr wyl fydd Awst 24ydd, 1862 ; a chan y dyg- wydd mai Sul fydd y dwthwn hwnw, diau nad arbedir yr Eglwys mewn un modd, ond y bydd yn esgyn o gannoedd o bulpudau Cymru gri plant Edom yn erbyn Ierwsalem, "Dynoethwch, dynoethwch hi, hyd ei syl- faen." Yn awr, dealled ein darllenwyr nad ydym mewn un modd yn eu beio am barchu dynion a wnaethant weithred gydwybodol; ond ein cwyn yw, eu bod yn cymmeryd achlysur oddi wrth yr amgylchiad hwnw i ddifrio yr Eglwys; ac yr ydym yn sylfaenu ein cwyn, nid ar y ffaith fod yr ysbryd sydd yn eu cynhyrfu yn annheilwng o'r broffes Gristionogol a wnânt, ond ar y íFaith fod y defnyddiad o'r amgylchiad hwn fel rheswm dros alw ar offeiriaid i adael eu heglwysi a'u bywiol- aethau, yn arddangos naill ai anwybodaeth o hanes y cyfnod, neu anallu i ddeall hanes, neu, yr hyn sydd waeth, anghyfiawnder gwirfoddolj ac hyd yn oed pe byddent yn deall yr hanes yn briodol, nid oes un berth- ynas rhyngddynt hwy a'r "Ddwy Fil," a sicr yw y buasai bron yr oll, os nad yr oll, o'r dynion hyny, pe buasai yn bosibl iddynt ymddangos mewn cnawd yn awr, yn ymlechu ym mynwes yr Eglwys yn hytrach na phleidio eu radicaliaeth hwy. Y mae hawl gan " eg- Iwysi diarddeledig" y ddau enwad uchod i alw ar eglwysi yr "undeb" i'w dilyn hwy yn eu hymneillduad oddi G.—Mehýin 15, 1862.