Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(fgfaill Ö'íIw-88î0. CREFYDD YNG NGHYMRU YN AMSER CROMWEL. Mjìe cymmaint wedi cael ei ysgrifenu, a hyny mor dda, yn yr Haul a'r Cymro, ar Gromwel, a dyddiau Crom- wel, a chrefyddwyr Cromwel, fel nad oes mewn gwirion- edd fawr angen am yr erthygl hon; a chan nad oes angen am dani, y peth goreu yw ei gwneyd mor fer ag y mae yn bosibl. Gellir edrych ar Cromwel fel cynnelw neu dype o nifer fawr ym mhlith yr Ymneillduwyr: siaradai yn grefyddol, ysgrifenai yn grefyddol, a thybiai ei hun yn grefyddol; ac ar yr un pryd yr oedd mewn gwaed oer yn gallu cyflawnu y gweithredoedd mwyaf croes i ysbryd crefydd. Yr oedd Cromwel yn llawn o ym- adroddion crefyddol; ymddangosai yn hynod o ostyng- edig a thynergalon j ac eto dyrna'r gwr a lawnododd y warant i roddi ei frenin i farwolaeth. Mae William Phillip, o Ardudwy, yn ei ddarlunio yn deg. Penodwyd W. Phillip yn gasglwr trethi dan Cromwel,—gwaith ag oedd mor groes i'w feddwl ag y gallai dim fod, canys ffiaidd oedd ganddo gasglu arian tuag at gynnal dyn ag oedd wedi llofruddio ei írenin : a phan yr elai i raewn i dy â'r llyfr trethi yn ei law, a'i warant gydag ef, dyma fel yr anerchai y pres- wylydd, ac fel hyn y darluniai Cromwel:— " Dyma warant Sant dan ei sel,—atolwg Telwch yn ddiochel, Khag i'r Sant, a'i chwant ni chêl, Ymgethru a myn'd yn Gythrel.'' Dyna Cromwel wedi ei dynu mor gywir ag y gallasai yphotographist goreu ; ac yn y darlun hwn yr ydym yn cael darlun o lawer oedd, a llawer sydd, yn tyngu wrtho. Diau fod crefydd yn isel ym mhlith Eglwyswyr yn y cyfnod yma, a bod llawer o wŷr eglwysig yn annheil- 11.—Tachwdd 15. 1862.