Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

% Öfíjaiîl ŵjgltüpig, GWEITHGARWCH EGLWYSIG. Parhâd o du dalen 167. IV. Ond raae ein cymmunwyr a'n cyfeillion eglwysig yn gofyn yn aml,—Beth a allwn ni ei wneuthur? Beth sydd a fynon ni â gwneyd hyn neu arall? Ateb:— 1. Bydded i bob pen teulu godi allor i Dduw yn ei deulu. Egwyddored ei deulu yng ngair Duw ac yn» ngwasanaeth yr Eglwys. Cofled fod Duw wedi rhoddi gwerth anfeidrol dan ei ofal, ac y bydd yn ei alw i gyf- rif yn y man. Deued â'i blant a'i dylwyth i'r Eglwys, fel un yn teimlodrostynt; a maged hwynt i'r Eglwys ac yn yr Eglwys. 2. Cedwch eich eydgynnulîiad. Deuwch i bob gwas- anaeth a fo yn yr Eglwys, hyd eithaf eich gallu. Ym- drechwch. Prynwch yr amser. Deuwch yn brydlawn. Annogwch ereill i ddyfod gan ddywedyd, "Awn, gan fyned i dy yr Arglwydd." 3. Hyd y mae ynoch, cymmerwch ran yn holl Wasanaeth eyhoeddus yr Eglwys. Myfyriwch y Llyfr Gweddi. Byddwch gyfarwydd a gartrefol ynddo. Cy- mharwch ef â gair Duw. Diolchwch fod trefn a ffurf eich haddoliad mor ysgrythyrol, heb fod ar un llaw yn orlawn o draddodiadau ac ofergoelion, nac ar y Uaw arall yn gynnyrchion didrefn a difyfyr. Ymffrostiwch ynddo fel llyfr ag sydd wedi ei bwyso ai fesur gan ddysgedigion y byd, a chan rai o ddynion goreu Duw, ac wedi dal holi ruthrau a chydymgyrch gelynion yr Eglwys o bob enwad, heb gyffro dim mwy na mynydd Duw. 4. Deuwch i'r Ysgol Sul, a chymmerwch ran yn ei gwaith. Cofiwch, er nad yw y sefydliad hwn yn hanfodol i gyfansoddiad Eglwys, mai sefydliad yr Eglwys yw, a'i fod yn ateb dybenion daionus iawn, 22— J/ydrefìö. 1863