Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

flÉîJfaHI Ŵglrcgaij. ESTHER. Esthese, fel Esra a Nehemîah, oedd un o blant y gaeth- glud ym Mabilon; ac fel hwythau, dysgleiriai fel seren oleu wiw yn ffurfafen yr Eglwys yn yr oes dywell hòno. Yr oedd yn cydoesi ag Esra a Nehemiah: Ahasferus, ei gwr hi, oedd yr Artacsercses, yr hwn, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad, a roddodd orchymmyn i Esra fyned i Ierwsalem i osod swyddogion a barnwyr ar y bobl, ac i'w dysgu hwynt yng nghyfraith eu Duw; a'r hwn, yn yr ugeinfed flwyddyn o'i deyrnasiad, a anfonodd Nehemîah fyny i Ierwsalem ag awdurdod ychwanegol i gyfodi pyrth ac i adeiladu mur y ddinas, y rhai oeddynt wedi eu dryllio a'u llosgi â thân. Tybir mai trwy ddylanwad Esther y cafodd Esra a Nehemîah gymmaint ífafr yng ngolwg y brenin Artacsercs- es, fel y penodwyd hwynt y naill ar ol y Hall yn llywodr- aethwyr Iwdah; ac ystyrir mai hi a feddylir wrth "wraig y brenin" a sonir am dani yn Nehemîah ii. 6, yr hon oedd yn eistedd yn ei ymyl, pan y gosododd Nehemiah ei ddeisyfiad ger ei fron. Mae ei hanes yn hynod ddyddorol ac addysgiadol: ni cheir ynddi, mae yn wir, enw Duw; ni roddir ef o gwbl yn yr oll o Lyfr Esther, yr hwn sydd. yn adrodd yr hanes; ond er hyny mae yn cydnabod yn eglur ragluniaeth Duw, ac yn dysgu y modd y mae Efe, trwy ei gweithrediadau doeth a dirgelaidd, yn peri fod bwriadau ac amcanion dyn- ion yn cydweithio er daioni i'w bobl. Plentyn amddifad oedd Esther, heb na thad na mam; hi a fagwyd gan ei chefnder Mordecai, gwr o Iwyth Benia- min, yr hwn a ddygwyd i waered i Babilon gyda'r gaeth- glud a gaethgludasid gydag Iechonîah, brenin Iwdah. 16—Ebrül, 1868.