Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

dfôfain Ŵglîflpifl* Y DDWY DEML. Sonir am y ddwy Deml gan Haggai y Prophwyd, yn pen. ii. 9, lle y dywed:—" Bydd mwy gogoniant y ty diweddaf hwn na'r cyntaf." Y ty cyntaf oedd y deml a adeiladodd Solomon, brenin Israel, ar fynydd Moriah, a'r ty diweddaf oedd yr ail deml, yr bon a adeiladodd Sorobabel, tywysog Iwdah, ar seiliau y deml gyntaf. Y ty cyntaf a adeiladwyd pan yr oedd y genedl yn yr amgylchiadau mwyaf Uwydd- iannus, gan Solomon, y cyfoethocaf o'i breninoedd, am yr hwn y dywedir, iddo wneuthur yr arian yn Ierwsalem fel ceryg, a'u cedrwydd fel y sycamorwydd yn y doldir o amldra; a'r ail dy a adeiladwyd mewn amseroedd blinion ar y genedl, gan Sorobabel, yr hwn oedd wedi newydd ddychwelyd o Babylon, a'r hwn, yng nghyd â'r genedl, oedd ar y pryd yn ymddibynol ar lys Brenin Persia. Y ty cyntaf, fel y gellid dysgwyl, oedd adeilad costus a godidog—yr oedd wedi ei wisgo oll tu fewn ag aur, ac wedi ei addurno â cherfiadau ; ond yr ail dy, mewn cy- mhariaeth i'r ty cyntaf, ydoedd wael, ac " fel peth diddim." Yr hen bobl, y rhai a welsant y ty cyntaf, a wylasant, yn lle llawenhau, pan odeiladwyd yr ail dy; wrth gofio gogoniant y cyntaf, yr oeddynt yn bruddaidd eu meddwl pan yn edrych ar waelder yr ail; ac eto Haggai a'u sicrha- ent y byddai mwy gogoniant y ty diweddaf na'r cyntaf. Ac hefyd, yr oedd y ty cyntaf yn rhagori ar y ty diweddaf, nid yn unig yng ngodidogrwydd ei addurniadau, ond hefyd yn rhagorfreintiau ei addoliad. Yr Iuddewon a ddywedant fod pump peth yn y ty cyntaf, y rhai oedd y ty diweddaf yn amddifad o honynt; a chaf yn awr yn fyr eu henwi. 25—I&nawr, 1869.