Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

%fäill Ŵgluipifl, SYNAGOGAU. Y gair "synagog" a dreiglir o'r iaith Roeg, a'i ystyr llythyrenol yw "cydgynnulliad;" ond yn y Testament Newydd defnyddir ef am y lleoedd neu'r adeiladau hyny yn y rhai y byddai yr Iuddewon yn cydymgynnull yn y trefi a'r pentrefi trwy'r wlad yn gyffredinol i addoli Duw. Yn Ierwsaìem yr oedd y Deml, ac ynddi cyflawnid addoliad Dwyfol, yr hwn oedd unigol ar ei ben ei hun; ni chyflawnid adduliad cyffelyb iddo o ran ei ddefodau trwy holl derfynau Israel; ond yn amser ein Harglwydd cyflawnid gwasanaeth y synagog ym mhob goror o'r wlad. Nid oes sicrwydd pa bryd yr adeiladodd yr Iuddewon synagogau gyntaf; ni sonir am dauynt cyn caethiwed Babilon, ond nid oes ammheuaeth nad oeddyut mewn bod rai ugeiniau o flynyddoedd cyn dyfodiad ein Harglwydd. Gellir casglu oddi wrth yr hyn a ddywedir yn y Testament Newydd, eu bod yn dra Uuosog yn Iwdea a Galilea yn amser ein Harglwydd, a bod gan yr Iuddewon crwydraidd, y rhai oeddynt ar wasgar ym mhlith y Cenhedloedd, eu synagog- au yu y dinasoedd y trigent ynddynt. Dywedir y dysgai y doctoriaid Iuddewig y gellid cyfodi synagog yn unrhyw le y caid ynddo ddeg o bersonau o gyflawn oed ac yn mwynhau rhyddid gwladol, y rhai a feddeut gyfleusdra i gyichu iddo i addoli, ac y cymhwysid y rheol hon at drefi ym mhlith y Cenhedloedd yn gystal ag yu Iwdea a Galilea. Yr oedd addoliad y synagog yu gyunwysedig o dair rhan, sef gweddîo, darllen yr Ysgrythyrau, esbonio'r Ysgrythyrau, a phregethu. 1. Gweddio. Yn y Deml byddai y bobl, fel y tybir, yn gweddîo yn unigol, ar eu penau eu hunain; gellir casglu hyn oddi wrth ddammeg y Pharisead a'r Publiean (Luc xviii. 9—15): oud yn addoliad y synagog, byddai y 26—Chioefror, 1869.