Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

flfífaUI Ŵ0lrcgaifl. ADDOLIAD Y DEML A'R EPISTOL AT YR HEBREAID. Yr ydym yn ddiolchgar i'n gohebydd "Eglwyswr o Ddyffryn Clwyd" am ei lythyr, yr hwn a ymddangosodd yn y rhifyn diweddaf o'r Cyfaill; mae yn beirniadu ein sylwadau ar "Synagogau" jrn y Cyfaill am Chwefror; rnae yn ei ystyried yn amryfusedd ynom i ddywedyd am addoliad y deml, ei fod "wedi diflanu" o dan yr Efengyl, ac mae yn seilio ei dybiaeth ar y ffaith fod awdwr yr Epistol at yr Hebreaid yn galw defodau yr addoliad hwn yn "bortreiadau y pethau yn y nefoedd;" mae yn ymresymu, os ydyw y pethau yn y nefoedd yn aros yr un, yna, rhaid fod y defodau ag ydynt bortreiadau o honynt yn parhau o fudd a defnydd yn awr, fel cynt, yn addoliad Duw. Yr ydym yu ystyried yr ymresymiad hwn yn anghywir; golygwn ei fod yn camsynied y gwersi a ddysgir yn yr Epistol at yr Hebreaid ar y pwnc, ac ymdrechwn yn awr brofi ein haeriad. Pan y gelwir yn yr Epistol "defodau gwasanaeth" y tabernacl neu'r deml, yn "bortreiadau y pethau yn y nefoedd, defnyddir y gair "portreiad" yn yr un ystyr a'r gair "cysgod," a defnyddir yr ymadrodd "pethau yn y nefoedd," nid fel y tybia ein gohebydd, am yr addoliad a roddir yn y nefoedd gan "ysbrydoedd y rhai cyfiawn y rhai a berffeithiwyd," ond am Grist, yr Eglwys, ac addoliad. yr Eglwys o dan yr Efengyl. Ac felly, er enghraifft, y "portreiad" oedd yr aberthau ar yr allor: ond y peth nefol, neu, a defnyddio ymadrodd arall o eiddo'r Epistol at yr Hebreaid, "gwir ddelw y peth" oedd aberth Crist ar y groes. Y portreiad oedd y gwaed a daenellid ar yr halog- edig, ond y peth nefol oedd gwaed Crist yn glanhau y troseddwr oddi wrth bob pechod: y portreiad oedd yr 28—fibrill, 1869.