Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

dfgfaill éŷlwÿêii. IAGO II.—PRAWF Y SAITH ESGOB A'R ANGHYDFFURFWYR. Un o'r cyfnodau mwyaf pwysig yn hanes Eglwys Lloegr yw teyrnasiad Iago II. Efe a ddaeth i'r orsedd ar farwol- aeth ei frawd Charles II. Meibion oeddynt eill dau i Charles I., yr hwn a ddienyddwyd gan 01iver Cromwel a'i fyddin. Gwedi marwolaeth Cromwel, Charles II. a adferwyd i orsedd ei hynafìaid gyda llais unfrydol y genedl yn gyffredinol. Yr oedd cyfnewidiad mawr wedi cym- meryd lle yn nheimladau y bobl; yr oeddynt wedi teimlo yn drwm iau ormesol Cromwel a'i filwyr, y rhai am amryw flynyddau a lywyddent achosion y deyrnas heb un Senedd. A phan ddaeth Charles II. i'r goron, y Senedd a alwyd ganddo a redodd i eithafion yn erbyn yr Anghydffurfwyr, a phleidwyr ereill 01iver Cromwel yn ei draws lywodraeth. Gwnaethant ddeddfau gormesol, ac anghydweddol â rhyddid crefyddol. 0 dan Charles II. gwnaetbpwyd deddf un- ffurfiad, trwy'r hon y gyrwyd allan o'r Eglwys rai o'r gweinidogion goreu a mwyaf dysgedig yn yr oes hòno. O dano ef y gwnaeth wyd y ddeddf, yr hon a elwir Five MUe Act, trwy'r hon y gosodwyd nad oedd unrhyw weinidog Anghydffurfiol i ddyfod o fewn pnm milltir i fwrdeisdref, os na chymmerai y llw,. yr hwn a ofynai y Corporation Act ei bod yn anghyfreithlawn o dan unrhyw amgylchiadau i wrthsefyll y brenin. 0 dano ef y gwnaeth- pwyd y ddeddf, yr hon a elwir y Conventicle Act, trwy'r hon y gwaherddid i fwy na phump o bersonau i ymgyn- null yng nghyd i gyflawnu addoliad cyhoeddus gwahanol i'r un a gynnwysir yn y Llyfr Gweddi Gyffredin. Ac o dano ef y gwnaethpwyd y ddeddf, yr hon a elwir y Tests Act, trwy yr hon y gorfodid pob dyn a ddaliai swydd o dan 29—Ifat. 1*69.