Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1 dUíJfaiII ŵgtitipifl. Y GARAWYS. Yr ydym, yn ol ein haddewid, i fyned ym mlaen â'n sylw- adau ar y Garawys. Mae tymmor y Garawys yn parhau am ddeugain diwrnod; cyfyngir ef i'r nifer hwn o ddydd- iau er coffadwriaeth am yr Arglwydd Iesu yn ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos yn yr anialwch. Eleni dechreuodd tymmor y Garawys ar yr 22fed o Chwefror, jr hwn oedd dydd Mercher y Lludw, a therfyna ar yr 2il o Ebrill, yr hwn fydd Sul y Palmwydd, sef y Sul o flaen y Pasc. Mae yn y Garawys chwech o Suliau; ac yn awr cynnygiwn sylwadau cyffredinol ar y Colectau perthynol iddynt. Fel mae y Garawys yn dymmor o hunanymwadiad ac hunanymostyngiad, felly mae y Colectau a ddefnyddir yuddo yn cydweddu â sefyllfa, ac yn ateb i gyflwr dynion edifeiriol yn galaru ac yn bryderus am eu pechod. Yn y Colect am y Sul cyntaf yn y Garawys, yr ydym yn cydnabod i'r Arglwydd Iesu "ymprydio deugain niwr- nod a deugain nos er ein mwyn ni;" ac yr ydym yn gweddîo am ras i "ymarfer y cyfryw ddirwest, fel, wedi gostwng ein cnawd i'r Ysbryd, y gallwn fyth ufuddhau i'w dduwiol annogaethau mewn cyfiawnder a gwir sanct- eiddrwydd." Ystyr y gair "dirwest" yw "ymattaliad;" ac yn y Colect hwn yr ydym yn gweddîo am ras wrth ym- prydio felly i ymattal oddi wrth fwydydd, diodydd, a thueddiadau anifeilaidd, fel, trwy farweiddio gweithred- oedd y corff, a darostwng y cnawd i'r Ysbryd, y gallwn rodio gyda Duw, a'i wasanaethu Ef yn ddiofn mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd ger ei fron Ef holl ddyddiau ein bywyd. Mae ymprydio yn arferiad ysgrythyrol, ac 08 iawn-ddefnyddir ef, nis gall lai na bod yn dda a buddiol er adeiladaeth ysbrydol y saint, ac er cyunydd gras yn eu 51—Mawrth, 1871.