Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

§ <$î'Jfaill ŴflliDsaifl. Y CYFARFOD MAWR YN LEEDS. Trep fawr boblog yn sir Gaerefrog ydyw Leeds. Ynddi hi y cynnaliwyd y Cyfarfod Mawr Eglwysig eleni, ar yr 8fed, 9fed, lOfed, a'r llfed o'r mis diweddaf. Hwn oedd y deuddegfed cyfarfod o'r fath, ac addefa pawb nad oedd yn 61 i'r uu a fu o'i flaen. Ni fu un yn fwy llwyddiannus, o ran y testynau a ddewiswyd, y papyrau a ddarllenwyd, a'r areithiau a draddodwyd; ac o ran nifer y gwrandawyr —yr oedd yno dros bedair mil a hanner, sef o ddeutu mil yn fwy nag yn un o'r cyfarfodydd-blaeuorol. Yr oedd yno esgobion, ac arglwyddi, ac aelodau seneddol, yn gystal ag offeiriaid a lleygwyr cyfrifol, yn cymmeryd rhan yng ngwaith y cyfarfod. Boreu dydd Mawrth, cadwyd Gwasanaeth Dwyfol yn Eglwys fawr blwyfol y dref. Yr ydym yn dyweyd ei bod yn Eglwys fawr, am fod lle ynddi i dair mil o bobl: ond er cymmaint yw ei hyd a'i lled, yr oedd yn rhy fach o lawer y boreu hwn. Archesgob Armagh, yn yr Iwerddon, oedd y pregethwr: ei destyn oedd Dauiel ix. 25: " Yr heol a adeiledir drachefn, a'r mur, sef mewu amseroedd blinion." Cymhwysodd y geiriau at yr amseroedd pres- ennol. Aeth y gynnulleidfa o'r Eglwys i Neuadd y Dref, lle yr oedd y cynnadleddau i gael eu cynnal, a llanwyd hi yn fuan o gongl i gongl. Ychydig ar ol dau o'r gloch, daeth Esgob Ripon i'r esgynlawr, a chymmerodd y gadair. Efe oedd llywydd y gymmanfa. Ar ol gweddio a chanu hymn, tra- ddododd yr esgob araeth ragarweiniol hyawdl a phwrpasol, ac yna adroddodd yr holl dyrfa Gredo yr Apostolion. Y rhai canlynol oedd y testynau y siaradwyd arnyut:— Prydnawn dydd Mawrth. " Cyfundrefn blwyfol Eglwys 71—Tachwedd, 1872.