Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i <$8faill Ŵflluîfijifl. FFEITHIAU O PWYS I EGLWYSWYR. Yb ydys yn galw sylw darllenwyr y Cyfaill Eolwysig at y ffeithiau a ganlyn, sef papyryn ag sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Amddiffynol yr Eglwys. Gellir cael copiau Seisonig o'r papyryn yn y " Church Defence Institution, 25 Parliament-street, London, S.W." Gan f'od papyrau neillochrog yn cael eu dosbaithu wrth y miliynau ar hyd a lled y wlad gan Gymdeithas y Dadgys- sylltiad, bydd y ffeithiau canlynol yn werth eu gwybod gan Eglwyswyr, a gwnelent yn dda pe dangosent bwynt bob un i'w gymmydog. 1. Y mae yn bodoli gorff bywiog, penderfynol, a threfnedig o ddynion, gyda'r swm o 100,G00p., a chyllid blynyddol o 12,000p., amcan y rhai ydyw rhoddi terfyn i'r " Eglwys Sefydledig;" hyny yw, y gydnabyddiaeth o Eglwys Gristionogol gan y Wladwriaeth, ac i îedrata a throi at ddybenion bydol holl waddoliadau, Eglwysi, persondai, ac ysgolion perthynol i Eglwys Lloegr; ond nid dim o'r hyn sydd yn perthyn i unrhyw gorff crefyddol arall. 2. Mae cenadon y gymdeithas hon yn gweithio ym mhob cyfeiriad, gydag aiddgarwch teilwng o achos gwell. Nid ydynt yn eyfyngu eu hunain i gyfarfodydd cyhoeddus ac ymosodiadau amlwg ar yr Eglwys, ond gwnânt lawer allan o'r golwg : darlithio, dosbarthu papyrau, a chyfodi rhagfarn yn erbyn yr Eglwys, trwy bob math o anwireddau ac honiadau unochrog. Mae'r mynegiadau yn y Liberator, eu cyhoeddiad hwy, yn dangos llawer o fywiogrwydd ; ond y mae drwg yn cael ei gyflawnu nas gwelir mo hono yn ei dudalenau. Nis gall un dyn ddyweyd gyda gwirionedd, "Nid ydynt yn gwneuthur dim yn fy ardal i." 3. Nid yw eu dadwrdd yng nghylch Dadgyssylltiad mewn gwirionedd yn cael ei gyfodi yn achos Anghydfíurf- 106—Hydref, 1875.