Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÿ (ÇjJfHtlI <Bfl ÎUIjgSÌfi. Y DDAIAR AM THRIGOLION. PRYDAIN FAWR. (Parhâd o dudalen 172.) Yn ein rhifyn diweddaf soniasom am y rhyfeloedd mawrion a fu rhwng Lloegr a Ffrainc o dan Sior III. yn niwedd y ganrif o'r blaeu ac yn nechreu y ganrif breseunol, ac am lwyddiant Lloegr yn y rhyfeloedd hyn. Daeth Lloegr allan o houynt yn fnddugoliaethus, ac o herwydd ei llwyddiant meddiannodd barthau helaeth o'r byd; ac felly mae ei meddiannau tramor yn helaethach na'r eiddo un deyrnas arall ar wyneb y ddaiar. Mae ganddi drefedigaethau (colonies) ym mhob parth o'r byd; maent dros hanner cant o uifer. Yn Asia, heb law India a Ceylon, meddianna Ynys Hong-kong yn China, a lleoedd ereill. Yn Affrica mae yn perthyn iddi yn neheubarth y cyfandir—Cape of Good Hope, a Natal, ac ar oror gorllewinol y Cyfandir— Sierra Leone, Gambia, a'r Gold Coast; ac iddi hi mae yn perthyn yr Ynysoedd Mauritius a St. Helena, pa rai ydynt gyssylltedig â chyfandir Affriea. Ac yn America mae yn perthyn i Loegr wledydd eang a thaleithiau cyfoethog; mae ei meddiaunau yng Ngogledd America mor helaeth ag eiddo yr Unol Daleithiau. Mae yn agos yr oll o'r Cyfandir o du y gogledd i'r afon fawr St. Lawrence yn perthyn i Loegr; y taleithiau helaeth ac eang ag sydd yn eiddo iddi yn y parth hwn o'r byd ydynt Canada, New Bruuswick, Nova Scotia, Cape Breton, Prince Edward Island, Newfoundland, British Columbia, Yancouver Island, Hudson Bay Company's Territory, British Honduras a'r Bermudas. Ac mae gan Loegr ynysoedd mawrion yn y West Indies. pa rai sydd gyssylltedig â chyfandir \\§—Âwst, 1876.