Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

aill (Ègluîpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PBYDAIN FAWB. (Parhâd o dudalen 199.) Yn ein rhifyn diweddaf soniasom am feddiannau helaeth Lloegr mewD gwledydd tramor, a nodasom ei bod yn un o'r teyrnasoedd mwyaf cadarn a dylanwadol ar wyneb y ddaiar. Yn yr hen amseroedd yr oedd yn ddigon er ei ddiogelwch i ddinasydd o Kufain ddywedyd "Rhufeinwr wyf." Ym mha wlad bynag yr ymdëithiai, uid oedd angen iddo ddywedyd mwy na'i fod yn ddinasydd Rhufain; felly gellir dywedyd yn bresennol, fod yn ddigon i ddeiliaid ein Brenines rasol awgrymu ym mha barth bynag o'r byd mae ei drigfa, " Sais wyf." Y cyfryw yw dylanwad a gallu Lloegr, fel na feiddia neb yn unrhyw wlad ddrygu Sais trwy drais a gormes yn fwriadol, Yn awr nodwu rai o'r pethau ag sydd wedi dyrchafu Lloegr i'r safle hon ym mhlith gwledydd y ddaiar. 1. Ei chyfoeth. Hi ydyw y wlad fwyaf gyfoethog yn y byd. Mae ei chyllid blynyddol, yr hwn sydd o ddeutu 70,000,000 o bunnau, yn dangos fod ganddi gyfoeth anferthol; mae'r swm mawr ag sydd yn gwneuthur i fyny ei chyllid yn cael ei gasglu yn y trethi, a'r cyfryw yw cyfoeth y wlad fel mae yn dwyn y trethi hyn er cymmaint ydynt gyda'r rhwyddineb mwyaf. Nid yw'r genedl braidd yn teimlo'r baich hwn. Mae cyfoeth y wlad yn tardda oddi wrth wahanol bethau; mae yn dylifo o wahanol ffynuonau. Un ffynnonell yw ein mwngloddiau glo a haiarn; mae'r mwngloddiau hyn braidd yn anhysbyddadwy, ac mae miloedd a channoedd o filoedd o weithwyr ynddynt. Ac yn gyssylltedig â'r glo a'r mwn haiarn mae ein gweith- %dd haiarn; ac mae holl wledydd y ddaiar yn masnachu 117—Med% 1876.