Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i <$eJaÜI Ŵgliüpig. LLINELL AR LINELL. G.4S MACHNO. PENNOD XI. Ioseph; neu, y Pydew. Iácob a welodd ei dad Isaac drachefn : ac yna bu Isaac oedranus farw, a Iacob ac Esau a'i claddodd ef yn yr ogof hòno lle y rhoddwyd Abraham a Sarah. Hwy a gydgy- fodant oll y dydd diweddaf; canys Isaac a ddymunai fyw mewn gwlad well na Chanaan, sef y nefoedd. Nid oedd Esan, chwi wyddoch, yn byw yng ngwlad Canaan; ond dewisodd Iacob fyw yng Nghanaan gyda'i blant a'i anifeiliaid. Yr oedd ei feibion oll wedi tyfu i fyny yn ddynion pan oedd Beniamin yn faban bach. loseph oedd y nesaf ato. Yr oedd yn llanc, a'r goreu o'r holl blant. Yr oedd y deg henaf yn ddynion drwg. Yr oedd- ynt yn arfer bngeilio y defaid a'r geifr; a phau oedd Ioseph gyda hwynt yr oedd eu hymddygiad drygionus yn peri gofid iddo; yr oeddynt hefyd yn ymddwyn yn angharedig ìawn tnag ato, a phob amser yn dywedyd yn arw wrtho. Yr oedd y lleill yn genfigenllyd, am fod Iacob yn caru Ioseph yn oreu. Yr oeddynt yn ei gasäu ef am mai efe ydoedd yr anwylyd. Rhoddodd Iacob anrheg hardd iawn i'w anwyl fab, sef siaced wahanol liwiau—glas, gwyrdd, melyn, pinc, coch, a phorffor, ac yr oedd Ioseph yn arfer ei gwisgo hi. Yr oedd ei frodyr yn genfigenllyd iawn pan welsant y siaced fraith yma. Satan sy'n gwneyd pobl yn genfigenus. Dylem weddio ar Dduw i'n cadw ni rhag bod yn genfigen- Uyd. Cewch glyw.ed pa bethau drwg a wnaeth y brodyr hyn, o herwydd eu bod yn cenfigenu wrth Ioseph bach anwyl a da. 120—Rhagfyr, 1876.