Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^jfaìll ŵgluipig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. IWERDDON. (Parhâd o dudalen 144.) Yn y flwyddyn 1641, fel y sylwasom yn ein rhifyn diweddaf, y torodd y gwrthryfel allan, yr hwn oedd un o'r rhai rnwyaf gwaedlyd a barbaraidd a ddarllenir am dano mewn hanes; ynddo y Gwyddelod a ymosodasant yn ddirgelaidd ac yn fradychus ar y Seisou, ac nid oeddynt yn amcauu dim llai na'u llwyrddyfethao'r ynys; parhaodd y gwrthryfelwyr am rai bìyoyddoedd i wrthwynebu yr awdurdodau; yu yr amser hwnw yr oedd pethau yn derfysglyd yn Lloegr; yr oedd y brenin a'r Parliament mewn rhyfel â'u gilydd, ac felly nis gallesid talu sylw ond bychan i'r Iwerddon. Ond wedi i fyddiu y Parliament o dan Cromwel faeddu byddin y brenin ac ennill y dydd, yna trodd y Parliament ei olygon at Iwerddon; Crom- wel a'i fyddin a anfonwyd drosodd yno, ac efe yn fuan a ddarostyngodd y Gwyddelod; efe a lwyr ddinystriodd rym y gwrthwynebwyr ac a lywodraethodd yr "ynvs ít gwialen haiarn; perodd i'r Gwyddelod deimlo dyruod ei law; efe a'i fyddin a'u sathrodd i'r fath raddau dan eu troed, feì y dywed Clareudon na ddyoddefodd unrhyw genedí erioed oddi eithr yr Iuddewon pan ddiuystriwyd hwynt gan Titus fwy o greulonder a dinystr na'r Gwyddelod o ddechreuad y gwrthryfel hyd ei derfyn. Ár adferiad Siarls II. i goron Lloegr, efe a'r Parliament a droisant eu sylw at Iwerddon; ymdrechasant dawelu y trigolion, ac i raddau llwyddasant; ond pau ddaeth Iago II. i goron Lloegr efe a ddaugosodd ffafr neillduol i'r Gwyddelod pabaidd, ac a ymdrechodd trwy y Gwy- ddelod gyrhaeddyd ei amcan yn Lloegr o ddymchwelyd ÌM—Gorphenaf, 1878.