Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

| <$gj[aill (Sglujgaifl. Y DDAIAR A'I THRIGOLION (Parhâd o dudalen 199.) CYNNADLEDD BERLIN. Yn ddiweddar cyrnmerodd y gynnadledd le rhwng gallu- uedd mawriou Ewrop, yr hon a osododd derfyn ar y rhyfel rhwng Rhwssia a Thwrci, ac a adferodd heddwch i'r gwledydd. Yn Berlin, prif ddinas ymherodraeth Ger- mani, y bu y cyfarfod; ynddo cynnrychiolid y gwahanol deyrnasoedd gan y dynion blaenaf a pheuaf yn eu plith, ac o dan fendith Duw a nawdd ei rhagluniaeth, y gyn- nadledd a gynnyrchodd heddwch i'r byd. Y teyrnasoedd a gynnrychiolid yn y gynnadledd oeddynt Rhwssia, Twrci, Lloegr, Ffrainc, Germani, Awstria, ac Itali. Yn gyntaf, Rhwssia. Mae Rhwssia yn wlad eang ac yn deyrnas alluog. 0 fewn y ganrif ddiweddaf a'r ganrif bresennol y mae wedi cynnyddu i'w maiutioli presennol, ac mae ei chynnydd y fath fel y mae yn peryglu rhyddid ac annibyniaeth y byd. Cristionogion yw y Rhwssiaid, yn perthyn i Eglwys Groeg, neu Eglwys y Dwyrain, prif eisteddle yr hon yw Caergystenyn, ac felly y mae cyssyllt- iad eglwysig rhwng y Rhwssiaid a'r Cristionogion yn Twrci. Yr anghyfìawnder a'r cam ag mae'r Cristionogion yn ddyoddef o dan iau haiarn y Tyrciaid a gyffrôdd gydymdeimlad y Rhwssiaid, ac a gynhyrfodd eu dialedd. Proffesent mai er lles a budd eu cyd-Gristionogion y cyhoeddasant ryfel yn erbyn y Tyrciaid, ond llawer a dybient fod ganddynt amcan arall mewn golwg; credent fod y Rhwssiaid yn awyddus am feddiannu taleithiau Twrci, ac os gallent, Caergystenyn ei hun. Ac y mae hyn yn debyg i'r gwir. Yn y rbyfel Rhwssia a orfu; arwein- iodd ei byddinoedd yn agos i Gaergystenyn, a gallasai yn Ui—Mcdi, 1878.