Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

íífaUI <&gl»2»ij. ENWOGION Y BEIBL. SOROBABEL. Sorobabel, fel Daniel ac Eseciel, ac fel Esra a Nehemiah, oedd un o blant y gaethglud yn Babilou; ei enw, ystyr yr hwn yw " dyeithr yn Babilon," a olyga hyny. Yroedd o'r had breninol, ac efe a wnaethpwyd gan frenin Persia yn "dywysog Iwdah." Nid oes ammheuaeth nad efe oedd Sesbassar, yr hwn a arweiniodd y genedl o Babilon, ac i'r hwn yr ymddiriedodd Cyrus, brenin Persia, lestri ty yr Arglwydd, canys dywedir yn Esra v. 16 mai Sesbassar a osododd sylfeini ty yr Arglwydd, pan ddywedir yn Sechar- 'iah iv. 9 mai dwylaw Sorobabel a'i sylfaenodd, ac mai ei ddwylaw ef a'i gorphenai. Nid yw Esra a Sechariah yn gwrthddy wedyd eu gilydd, ond soniant am yr un person o dan wahanol enwau. Yr oedd ganddo, yn ol arferiad yr oes hòno, fel Daniel a'i gyfeillion, ddau enw—un yn yr Hebraeg a'r Uall yn y Galdaeg. Yn y Beibl ni roddir ond ychydig o'i hanes personol; ni nodir hynodion ei gymmeriad; ni sonir am ei" alluoedd a'i gymhwysderau; os oedd ganddo ragoriaethau a rhin- weddau, neu os oedd yn agored i ffaeleddau a diffygion, ni ddywedir dim am danynt; awgrymir yn Haggai i. ei fod ef fel y bobl wedi llaesu ei ddwylaw yn y gwaith o adeil- adu ty yr Arglwydd, ac y dywedai fel hwythau, "Ni ddaeth yr amser"—yr amser i adeiladu ty yr Arglwydd; oud dywedir i'r Arglwydd gynhyrfu ei ysbryd fel ysbryd Iosuah, mab Iosedec yr archoffeiriad, ac ysbryd yr holl bobl, i wrando ar lais yr Arglwydd ac ar eiriau Haggai y prophwyd, ac i weithio y gwaith yn nhy yr Arglwydd y îluoedd eu Duw hwynt. Dangosir ef yn ei gymmeriad 152—Awst, 1879.