Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<$gfaül (íjl»í»i^ ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. (Parhâd o dudal. 256.) Gwedi croesi yr lorddonen, y gwaith nesaf oedd cym- meryd Iericlio. Y naill fel y llall a gyflawnwyd trwy ffydd: ffydd a "drodd yr Iorddonen yn ol," a "thrwy ffydd y syrthiodd caerau Iericho." Nid yn y dull cyffredin o ennill dinasoedd y cymmerwyd lerieho; yr oedd yn ddinas gaeíog, ac yr oedd ei muriau yn gedyrn, ac yr oedd gwŷr grymus o nerth o'i mewn; ac yr oedd yn gauedig ac yn warchauedig o herwydd meibion Israel. Ond Iosuah nî fwriodd glawdd o'i hamgylch ac ni osododd beiriannau rhyfel yn ei herbyn; eiddo yr Arglwydd oedd y rhyfel; Efe oedd u Dywysog y llu;" Efe oedd yn trefnu ac yn llywyddu symmudiadau y bobl yn y gwersyll; fel y llefarai Efe, felly y gwnai Iosuah ac y gorchymmynai i'r bobl wneuthur; Iosuah a gredodd, ac am hyny a ufuddhaodd; ei ffydd a orchfygodd; syrthiodd caerau Iericho, a'u cwymp a fu fawr; ennillwyd y fuddugoliaeth, nid trwy wroldeb dyn, ond trwy allu Duw. Yr oecld cwymp Iericho yn gwbl o Dduw; Duw yn addaw a Iosuah yn credu—Duw yn gorchymmyn a Iosuah yn ufuddhau; yn y dull hwn y syrthiodd y caerau ac yr ennillwyd y ddinas. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, " Wele, rhoddais yn dy law di Iericho a'i brenin a'i gwŷr grymus o nerth," ac a'i cyfarwyddodd pa fodd i weithredu. Ý cyfarwydd- iadau oeddynt fel y canlyn:—Yr oeddynt i amgylchynu y ddinas am saith diwTrnod—unwaith bob dydd am chwech diwrnod, ond ar y seithfed dydd yr oeddynt i wneyd hyny saith waith; yr oedd eu mynediad o amgylch y ddinas i 179—Tachwedd, 1881.