Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

| ílfaill ŵglugftig. IEUENCTYD Y BEIBL. RHODB. "Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, niorwyn a ddaeth i ymwrandaw, a'i henw Rhode." Rhyfedd fod son am lawer o ddynion da a duwiol yn y Beibl y rhai ni roddir eu heDwau. Mam Samson, er cryfed ei ffydd; mam Dafydd, er mor enwog ei mab; gweddw y ddwy hatling, er cymmaint ei haelioni; y weddw o Nain, yng nghyd â'i mab, er mor fawr y wyrth a wnaeth yr Iesu erddynt, ni roddir enw un o honynt. Ond am y forwyn hon, ysgrifenwyd ei henw hi i lawr, ac y mae pob un Bydd yn gyfarwydd â'r Beibl yn gyiinefìn ag ef ym mhob oes ac ym mhob gwlad. Anrhydedd yw cael yr enw wedi ei ysgrifenu ym mhlith dynion duwiol ym Meibl Duw. Braint yw cael yr enw ar lyfr Eglwys Dduw. Bendith fwy na'r cwbl yw cael yr enw yn ysgrîfenedig yn llyfr bywyd yr Oen. Ystyr yr enw Rhode yw rhosyn. Peth cyffredin gan yr Iuddewon oedd galw eu plant wrth enwau blodau a phreuau, megys Susannah=lili, Hadassah =myrtwydden, Tamar=palmwydden. Braint Rhode. Er ei bod yn aros yn Ierwsalem, y ddinas y croeshoeliwyd yr Iesu ynddi. y ddinas yr oedd miloedd o elynion i'r Iesu yn byw ynddi, a'i ganlynwyr Ef yn cael eu herlid ynddi, yr oedd Rhode mewn teulu duwiol, yn nhy Mair, mam Ioan, yr hwn oedd â'i gyfenw Maro Yr oedd y teulu hwn yn ddysgyblion i Grist; yn y ty hwn yr oedd yr Apostolion yn cwrdd â'u gilydd, ac yr oedd llawer wedi ymgasglu y noswaith hòno ac yn gweddîo. Tebyg mai trwy fod yn y teulu hwn y daeth Rhode ei hun yn ddysgybl i'r Arglwydd Iesu. Nid gwaith hawdd yw gweddio mewn teulu diweddi, Da byw yn dduwiol yng 211— Gorphenaf, 1884.