Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

$| (Çjjfaill Ŵ0l«J8»i0. AMDDIFFYN YR EGLWYS. Mae cymdeithas wedi ei sefydlu er ys blynyddau, yr hon a elwir y Gymdeithas er Amddiffyn yr Eglwys. Fel y rhan fwyaf o gymdeithasau, mae ei chanolbwynt yn Llundain, ond y mae cannoedd o gangenau o honi wedi eu ffurfio mewn trefydd a phlwyfydd gwledig yng Nghymru a Lloegr. Ei harwyddair ydyw amddiffyn ac nid ymosod. Nid yw yu ymosod ar ryddid, na iawn- derau, na breintiau, na meddiannau un enwad crefyddol yn ein gwlad. Ei_hunig amcan ydyw amddiffyn yr Eglwys yn ei safle, ei hiawnderau, a'i meddiannau. Ei dadl yw, fod gan yr Eglwys yr un hawl gyfiawn i'r hyn a roddwyd iddi yn wirfoddol yn yr amser gynt, a'r hyn a roddir iddi yn yr amser presenuol, ag syád gan unrhyw enwad arall i'r hyn a roddir iddo. Ei harfau amddiffynol ydynt llyfrau a thraethodau, erthyglau mewn cylchgronau a phapyrau a darlithiau. Nid yw yn ofni goleuni ar bob peth a berthyn i'r Eglwys. Mae am i'r lluaws gael gwybodaeth gywir am hanes yr Eglwys, ei hansawdd, ei pherthynas â'r Wladwriaeth, ei hegwyddorion, a'r modd y rhoddwyd iddi ei thiroedd, degymau, ei Heglwysydd, a'i phersondai. Nid yw am guddio dim: nid yw am gelu dim. Mae am roddi ateb teg i bob haeriad disail a chywiro pob camsyniad. Onid yw sefyllfa yr Eglwys yn bresennol yn debyg i'r eiddo adeiladwyr muriau x -'-salem yn amser Nehemîah? Yr oedd Sanbalat yr Horomad, a Thobîah y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, weithiau yn ceisio eu denu, weithiau eu bygwth, ac weithiau yn ymosod arnyat fel yr oedd y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a'r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â'r llaw arall yn dal arf. Pob un 218—Chwefror, 1885.