Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

§ <$2faiII ŵgiujpifl. LLYFRAU Y BEIBL. ZECHARIAH. Zechariah ("yr hwD y mae'r Arglwydd yn ei gofio") oedd fab i Barachîah, mab Ido y prophwyd. Yu Esra v. 1 gelwir ef yn fab Ido. Ei daid oedd Ido, ond tebyg i'w dad farw pan oedd ef yn ieuanc. ac o fiaen ei daid, ac am hyny y gelwir ef yn fab Ido, yu ol ei daid. Fel Jeremîah ac Eseciel, yr oedd Zecharîah yu offeiriad yn gystal ag yn brophwyd. Nid aty Zecharîah hwn y cyfeiria yr Arglwydd Iesu yu Mat. xxiii. 35, yr hwn a laddwyd rhwng y deml a'r allor, eithr at Zecharîah, mab Jehoiada, yr hwn a labyddiasid yug nghyntedd tŷ yr Arglwydd. Peth cyffredin oedd rhoddi dau enw ar yr uu gwr. Gau mai Ail Lyfr Cronicl oedd yr oìaf yn yr Hen Destament Hebraeg, sonia yr Iesu am y ddau ferthyr. y cyntaf a'r olaf. Ganwyd Zecharîah yn Babilon, ac efe a ddaeth gyda'r fyntai gyntaf, dan arweiniad Zorobabel a Josua, yn ol i Jerusalem, ac a ddechreuodd brophwydo yr uu flwyddyn a Haggai, sef 520 cyn Crist. ac a barhaodd i brophwydo ar ol i Haggai ddystewi. Tybia rhai fod hanner can mlynedd rhwng y rhan gyntaf a'r rhan olaf i'r llyfr. Rhana rhai y llyfr i bedair rhan :— 1. Y rhagymadrodd; 8. Gweledigaethau; 3. Addysgiadau; 4. Prophwydol- iaethau. Yn y dechreu, mae ef yn gwahodd Israel i ddychwelyd. at yr Arglwydd, ac yn annog y penaethiaid i orphen tŷ yr Arglwydd. Yn y diwedd, mae ef yn rhagfynegu pethau i ddyfod—cyflwr yr Iuddewon, a sicrwydd teyrnas y Messîah. Nid 068 neb o'r prophwydi ond Esai wedi rhaglefaru mor eglur am Grist; am dano yn marchogaeth i Jerusalem 243—Mawrth, 1887.