Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

U Cgfailí <%Ifopt0* CANOJST LIDDON. tjU Cauon Liddoa farw dydd Mawrth, Medi 9, ya ua a thrigain oeà. Mab ydoedd Heury Parrj Lidàoa 2 swyààog miîwrol yo y Llyoges. Gafodd ei eni yD Taunton yn y flwyddyn 1829. Danfonwyd ef i Brifysgol Rhydychain yn ieuanc iawn, a graddiwyd ef pan yn un ar hugaiu oed. Nid oedd mewn oedran i gystadlu â rhai ddwy neu dair blwydd yn hŷn nag ef, ac o herwydd hyny ni chyrhaeddodd y dosbarth blaenaf. Urd&wyd ef yn ddiacon gan yr Esgob Wilberforce. Dechreuodd ei yrfa fel offeiriad gan dynu syîw fel pregethwr. Yn 1870 penodwyd ef yn Ganon Eglwys Gadeiriol St. Paul. Daeth yn hyood o boblogaidd yn y Brifddinas, fel yr oedd wedi bod yn Rhydychain. Tyrai tyrfaoedd i wrando arno. Ystyrid ef yn gyffredin y pregethwr blaenaf yn ei oes, er mai darllen ei bregethau ydoedd. Yr oedd ei olwg yn hawddgar, ei lais yn beraidd, ei draddodiad yn llithrig, a'i bregethau yn llawn sylwedd o'r dechreu i'r diwedd. Uu prydnawn Sul clywodd yr ysgrifenydd ef yn pregethu yn St. Paul. Efe a bregethodd am dros awr o amser; ac er mai awr drom y prydnawn ydoedd hi, nid oedd yno neb yn pendrymu na neb yn blino. Bernid fod yno gynnulleidfa 0 wyth mil yn gwrando aruo. Yr oedd Dr. Liddon yn wr cadarn i amddiffyn y ffydd gatholig, credoau yr Eglwys, ac ysbrydoliaeth y Beibl. Mae ei Bampton Lectures ar " Dduwdod Crist" yn un o'r llyfrau goreu sydd mewn bod ar yr athrawiaeth hon. Yr oedd Dr. Liddon wedi bod yn anhwylus am grym amser. Symmudodd o Rydychain i àf ei chwaer, yng nghanol y wlad, yn sir Gaerloew, er mwyn newid awyr, ac oddi yno i Weston-super- Mare, ar lan y môr. Pan y meddyliodd y meddyg ei fod yn well efe a hunodd rhwng eu dwylaw. Peidiodd y gaîon â churo, ac ehedodd yr ysbryd i'r anfarwol fyd. 286—Hydref, 1890.