Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I í-lfaiU ŵflituajifi. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. TWRCI. Ni a barhäwn ein sylwadau ar Twrci. 1. Y Trigolion.—Fel y sylwasom yu eiu rhifyn di- weddaf, rhenir y trigolion i ddau brif ddosbarth o bobl, sef y Tyrciaid, y rhai ydynt Fahometiaid, a'r Cristion- ogion. Yu Twrci yn Ewrop y Cristionogion ydyut y lluosocaf; oud yn Twrci yn Asia mae'r Mahometiaid yn lluosocach na'r Cristionogion; ac yn y parthau o Affrica ag sydd yu perthyn i Twrci y trigolion ydynt, oddi eithr ychydig eithrind. oll yn Fnhometiaid. Cyfrifir fod tri- golion Ymherodraeth Twrci yn rhifo o ddeutu 35,000,000. Golygir fod yn Twrci yn Ëwrpp o ddeutu 3,800,000 o Fahometiaid, a 11,600,000 o Gristionogion; ac yn Twrci yn Asia o ddeutu 12,000,000 o Fahometiaid, a 3,000,0#0 o Gristionogiou; ac yn y taleithiau yn AfFrica, perthynol i Twrci, ystyrir fod y Mahometiaid yn rhifo o ddeutu 3,800,000; a meddylir fod yr Iuddewon trwy'r oll o'r ymherodraeth yn rhywbeth tebyg o ran eu nifer i 800,000. Nid oes sicrwydd pendaut yng nghylch nifer y boblogaeth, ond golygir fod y cyfrifon ag ydym yma yn roddi yn dra chywir, ac yu agos i'r gwir. 2. Llywodraeth Twrci —Mae'r lly wodraeth yn hollol ac yn gwbl yn llaw y Mahometiaid; nid oes gan y Cristion- ogion y rhan leiaf ynddi. Yr ymherawdwr a elwir Sultan, ac mae ei awdurdod yn annibynol; golygir ef yn olynydd i Mahomet, ac ystyrir ef yn ben y grefydd Fahometaidd yn gystal a'r llywodraeth wlad'ol yn Twrci. Mae ei ly wodraeth yn unol â'r Koran, am yr hwn y gellir dywedyd, mai Beibl y Mahometiaid yw. Ond mae yr ymherawdwr i ymgynghori â'r prif offeiriad, yr hwn a elwir Mufti, mewn achosion pwysig; gofynir hyn oddi wrtho am y tybir fod y Mufti a'r ofFeiriaid sydd oddi tano, 81—Medi, 1873.