Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEN I NEN: Rhif 4.] HYDREF, 1888. [Cyf. VI. YNYS MON AC YNYS CYBI. Cefais achlysur ychydig atnser yn ol i ymweled â Môn ac Arfon : ond nid yw gwaith Cyniro yn ymweled â Chymru yn beth a eilw am lythyr ar y pwnc at ddarllenwyr T Genhinen. Gwnaiff y tro er hynny fel esgus i mi dros ystofi math o lythyr di-bwynt ar gais y Golygydd. Fy arhosfa gyntaf ynte oedd hen ddinas Bangor: a chyferfyddais yno aelodau eraill y pwyllgor a ddeil awenau llywodraeth yr Ysgol Éamadegol sydd yno; a'r pwnc dan sylw oedd symud yr ysgol o'r pant lle y gorwedd i ben y bryn oddiar Orsaf y Rheilffordd. Ceir ei boâ yn holloí angenrheidiol symud o'r hen le a ddewiswyd gan y myneich yn yr amseroedd gynt. Gresyn yw hynny 5 ond nid oedd eu golygiadau hwy bob amser y fath ag i ateb i'n hamgylchiadau 111 yn r oes hon. Lle llawn o olion henafiaeth yw Bangor: a byddai yn burion i wyllgor yr Eisteddfod sydd i'w chynnal yno yn 1890 ymdrechu cael traetbodau ar ryw bynciau o'r fath. Er engraifft, dwg yr Eglwys Gadeiriol ni yn ol o ran hanesyddiaeth hyd amser Deinioel Sant a'i noddwr, brenin mwyaf y Cymry, sef Maelgwn* Gwynedd ; ac y mae a fynno hanes pob oes bron o'r chweched ganrif hyd heddyw â Bangor Fawr yn Arfon. Ond dyrchafu eich llygaid chwi a welwch y tu allan i'r hen ddiuas lawer o leoedd llawn o'r un dyddordeb henafol a hitheu, megys Tnys Lannog, er engraifft, a çlwir bellach ar enw Seirioel, yr hen sant hynaws oedd hoff o gaws ac 0 gawswyr y genedl Gymreig yn yr oesoedd gynt. Tn Tnys Lannog y gwarchaewyd Cadwallon gan longau Edwin frenin yr Eingl a roddasant ei henw Seisnig o Anglesey i Ynys Môn mam Gymru ; ac oddiyno y dihangodd Cadwallon i'r Iwerddon, lle yr arbosodd hyd ei ddychweliad i orchfygu yr Eingl yn eu tro. Pallai amser i mi son am bob peth a welir ym Mangor ac o Fangor, hynny yw yn yr ystyr hanesyddol; a hawdd fydd i Eisteddfod Bangor gael testunau da yn ei chymydogaeth ei hun os myn. Nidiawn gadael Bangor beb son am ei benw; y tro diweddaf y digwydd- odd i mi siarad yn benrydd ym Mangor ac am Fangor, dywedais na fedrwn esbonio'r enw. Gwir oedd hyny, a gwyddwn hefyd fod ein geiriadurwr Cymreig, y Parchedig Daniel Silvan Evans, yn rhwym o drin y pwnc yn fuan. T mae rhifyn B o flaen y cyhoedd bellach, a chynwysa erthygl o'r dyddordeb mwyaf ar y gair bangor. Dyma fel y dywed:— Bangor, (fem.) l.a. the upper row of rods, thicker than the rest, in a wattle fence, that strengthens, binds, or locks the inner parts together; and in high fences it was common to have two or three of such plattings — O galan gauaf allan cauer yr ysguboriau fal y dylyir. Sef fal y dylyir, yn gyn gadamed ag y bo tair bangor ar y llogail, a phlaid ar y drws, a thri rhwym ar y blaid, dau ar ei gwegil, ac un o'r tu rhagddi......Gwedy Gwyl yr Hollsaint, oni bydd bangor yn nhri lle ar y cant, ar drysau yng nghaead, ni thelir y llwgr. {Leges Wallicac, iii. x. 17: cf. 18). * Os gwel yr argraphydd yn dda, Maclgwn yw yr enw ac nid Matlgwyn. Nid oes dim yn wyn ynddo ; a Chynfacl ydyw o'i droi y tu chwith allan fel pedâi. Ond byddaf yn gyffredin yn cael fy nhrechu yn hollol gan yr argraphydd sydd yn gwy- bod yn well na mi na neb o'm bath pa beth yw yr enw.