Symud i'r prif gynnwys

282 TALHAIARN. Hyd nes ymosod ar y gwaith o grynhoi math o gofiant byr o Talhaiarn, ni feddyliais erioed gymaint coll mewn gwrthddrych cofiant ydyw iddo fod yn hen lanc. Amddifadir y bywgraffydd, pwy bynag a f'o, trwy hyny, o ddefnydd- iau dyddordeb. Ni fydd ganddo yr un rian deg i'w dwyn gerbron a'i desgrifio ; bydd heb chwedl gynhyrfus am garwr- iaeth ei arwr; cyll y darllenydd y dy- ddanwch arferol sydd o wybod pa le y cy- merodd y briodas le, pwy gymerai ran ynddi, pa le y trigianai y ddeuddyn ieuainc ar y cyntaf; nifer eu plant, a threigliad eu bywydau hwythau ; os bu rhai ohonynt feirw, trallod dwfn y tad ar eu hol; os bu farw y wraig, galar y priod—misoeddoanhunedd, acfe ddichon gwraig arall, &c, &c. Dyna'r anelwig ddefnydd yr ymddigrifa y by wgraffydd teilwng wrth eu nodi a'u dodi mewn trefn. Ond nid oes mohonynt i'w cael yn mywyd y dibriod ; ac y mae yn ddrwg genyf gydnabod, ar y dechreu, mai hen lanc, neu, fel y dy wedant yn Morganwg, 11 hen fab gweddw," oedd ein cydwladwr dawnus Talhaiarn. Ychydig o'i gyd-oeswyr ef, yn enwedig yn ystod ugain mlynedd olaf ei oes, a wyddent mai John Jones oedd ei enw, pe hefyd y byddai dau air mor gyffredin yn teilyngu eu galw yn enw. Éel Tal- haiarn, ei enw barddo ol, yr adwaenid ef gan wreng a boneddig, felly y galwai ef ei hun, ac yn y ffurf dalfyredig o " Tal." y sonid am dano gan ei gyfeillion. Prin y mae angen hysbysu mai oddi- wrth enw nawddsant ei blwyf genedigol y cymerodd ei ffugenw. Dyma a ddywed ef ei hun am Lanfairtalhaiarn :—" Y mae y pentref yn eistedd ar fin afon Elwy, mewn dyffryn bach prydferth iawn yn fy ngolwg i; oddeutu yr un pellder o Ddinbych ag o Lanrwst; a phum' milldir i'r deheu o dref Abergele, yn sir Ddin- bych." Fel llawer encil dawel arall yn Nghymru, y mae Llanfairtalhaiarn yn gyforiog o ddyddordeb banesyddol, nad oes amser i'w henwi. Un o'r plwyf hwn oedd Elsbeth Hughes; ac wrth yr allor yma y priodwyd hi Chwefror 19eg, 1763, gyda y bardd Thomas Edwards (Twm o'r Nant), gan fardd enwog arall—Ieuan Brydydd Hir, yr hwn oedd gurad Llan- fair yr adeg hono. Dywedir fod yn wyddfodol ar y pryd, Robert Thomas, clochydd dysgedig y plwyf; Dafydd Sion Firs, a Sion Powel o Rydyreirin, a hwynt olí yn feirdd diledryw a chym- deithion dyddan. " Llon fu'r dydd yn Llanfair deg," ebe Bardd y Nant yn un o'i gywyddau; a chwanega Tal.—" Llon fu'r dydd, mae'n ddiameu: oherwydd os na cheir llondid yn mhlith torllwyth o feirdd, nid oes llondid ar wyneb y ddaear." Yn ngwesty yr Harp, yn y plwyf uchod, y ganwyd ef, lonawr 19eg, 1810. Yr oedd hyn dri mis cyn marwolaeth Bardd y Nant; a phan oedd Bardd Nantglyn (Robert üavies) yn 41ain oed —dau fardd y canmolodd Talhaiarn lawer ar eu gwaith, y naill oblegyd ei athrylith ddiamheuol, a'r llall oherwydd y jingle hyfryd i glust prydydd sydd yn nodweddu ei farddoniaeth. Pobl neillduol o barchus yn eu hardal oedd John a Gwen Jones, rhieni Tal- haiarn. Ba farw y tad mewn oedran cymharol ieuanc, a chyfeiria y bardd yn dra serchog ato yn un o'i ganeuon ; ond cafodd y fam hir ddyddiau, ac ni rag- fiaenodd ei mab i dir machlud haul ond o ychydig flynyddau. Y mae yn amheus a f u erioed lenor Cymraeg mor hoff o'i fam ag oedd Talhaiarn ; a gwyn fyd y dyn hwnw a gafodd gyfleusdra ac a'i hiawn- ddefnyddiodd er cysuro mam weddw —i daenu blodeu serch ar hyd llwybrau ei henaint. Ceir yn llyfrau Talhaiarn luaws o gyfeiriadau at yr hon a'i hym- ddûg, a phob amser gydag edmygedd sydd yn ymylu ar addoliad. Prif hyf- rydwch ei ymweliad â'i fro enedigol fyddai gweled ei gwyneb addfwyn a chlywed ei llais croesawgar hi; ac er ei fod yn tynu at haner cant pan y collodd hi, yr oedd ei alar mor ddwys ar ei hol a phe na buasai ond bachgenyn deg oed. Yn ei gân swynol i " Bictiwr fy mam," gwelir ei galon archolledig. Naturiol iawn i dad a mam mewn am- gylchiadau cysurus, fel gwr a gwraig yr Harp, roddi yr addysg oreu yn eu cyr- haedd i'w plant, o'r rhai yr oedd pump —tri mab a dwy ferch. Bu John am ryw yspaid yn " Ysgol y Llan," tan addysg un o'r enw Evan Jones; ond fel ysgolion bychain y pentrefi Cymreig 60ain mlynedd yn ol, mae'n sicr nad oedd raid i neb fod yn sychedig iawn am wybodaeth i yfed yn fuan yr oll a geid ynddi hi. Wedi hyny, bu gydag un o'r enw Louis yn Abergele ; a thrachefn yn Rhuddlan, gyda dysgawdwr o'r enw John Evans. V r unig reswm f od enwau y tri doethawr hyn wedi goroesi ebar- gofiant am 60ain mlynedd ydyw eu cysylltiad fel athrawon â'r gwr y soniwn am dano. Nid arosodd John Jones yn hir yn yr ysgol: dychwelodd yn gynar adref at ei dad i ddysgu y gelfyddyd o asiedydd (joiner). Clywais hen wr a fu yn cyd- weithio â'r ddau ar etifeddiaeth Castell y Gwrych, Abergele, yn dweyd mai