Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENINEN GWYL DEWI (ARGRAFFIAD ARBENIG O'R "GENINEN," Y CYNTAF 0 FAWRTH, 1888.) I. D. FFEAID. Nid oherwydd yinsyniad hunangar o unrhyw gymhwysder personol, ynwyf fi yn arbenig, i ysgrifenu math o fyw- graphiad o'r diweddar a'r enwog I. D. Ffraid, nac o unrhyw allu neillduol, fel beirniad, ynwyf fi yn anad rhywun arall, i wneud un math o gyfiawnder â "Uafur llonyddol" yr ymadawedig "o fendigedig goffadwriaeth," y cydsyniais â'r cais i mi ysgrifenu yr erthygl gan- lynol; ond ymgymerais â gwneuthur hyny ar yr amod na fyddai i hon gael ei hystyried amgen na rhyw ragarweiniad i erthyglau ereill, gan fywgraphwyr a beirniaid cymhwysaeh, trwy gynhôrthwy y rhai y bydd i'r Geninen drosglwyddo ir oesau a ddeuant bortread cywir a thrwyadl o I. D. Ffraid, fel dyn, fel bardd, fel llenor, fel gwladgarwr, ac fel Cristion,—at yr hyn yrwyf yn ystyr- ied yn anrhydedd cael cyfranu rhyw gymaint. Myfi a fum, fel y nifer mwyaf o lenorion Cymreig y genhedlaeth hon, o fy ieuenctid, yu gynefin âg ysgrifen- iadau amryfath I. D. Fíraid—gwladol a chrefyddol, difyr a dwys, duchanol a chyfeillgar, dadleugar a chlodforus, gwleidyddol a llenyddol,—a'r ysgrifau hyny, er eu bod yn dwyn amrywiaeth mawr o ffugenwau poblogaidd, oll hefyd yn dwyn delw ac argraph nodweddiadol ac anffaeladwy eu hawJwr diffuant o Ddyffryn Conwy. Cefais hefyd y fantais, o fy nyddiau boreaf, i sylwi ar y moesddull deniadol ac ynillgar a arddangosai efe bob amser yn ei gyweithosiad a'i ymdrafodaeth cyfeillgar à'i gymdeithion, a'r modd y byddai adnabyddiaeth a chynefindra yn cynyddu ac yn ymaddfedu i ffyddlondeb gwresocaf gwir gyfeillgarwch. Yn hyn —er y n annhebyg ia wn iddo mewn amry w nodweddion—yr oedd yn ymdebygu yn fawr i*r diweddar Islwyn, yn enwedig mewn nerth argraphiadol a dylanwadol cymeriad, — mewn ymgiliad rhag ym- honiadau dadyrddus a thrystiog,—mewn amlygrwydd tueddfryd gonest a theg,— oll wedi eucymhlethu âg urddas meddwl, barn, a theimlad, gydag ymddiried diddichell yn annichellrwydd rhai ereill, oddigerth pan yr argyhoeddid ef tu hwnt i bob amheuaeth ei fod wedi cyfarfod â bradwr, neu hustyngwr anghyfiawn, neu orthrymydd annynad mewn cred, neu weithred, neu air. Gyda'r nodweddion rhinweddol uchod, yr oedd yn gyfunedig y dyddanwch a ddeilliai o'i ymddyddanion parod a'i ffraethebion dihoced, yn arllwys allan drysorau pridwerth ei sylwgarwch a'i adfyfyrion, mewn hanesyn bywiog neu arabair craff. Dymunwn yn fawr, yn yr ysgrif hon, allu cyfieu gerbron y darllenydd rai o'r teithi hawddgar hyn, a nodweddent fywyd a chynyrchion llenyddol I. D. Ffraid, trwy ddyfynu ambell frawddeg rydd neu ddernyn barddonol o'i waith, a thrwy ddefnyddio rhai o'r adgofion sydd genyf yn bersonol am dano, a'r cynorth- wyon a gafwyd oddiwrth amryw o'i gyfeillion a'i gymdeithion mwyaf cyfar- wydd, y rhai nas ystyrient ef yn LLWYR LESOR PROFFESEDIG. Yr oedd gyrfa lenyddol I. D. Ffraid— fel yr eiddo'r nifer mwyaf o awduron,— er, a siarad yn fanwl, nad oedd efe yn awdior mewn ystyr broŷeswrol,—yn yrfa syml a chymydogol iawn, heb onid ychydig ddigwyddiadau ac anturiaethau cyffrous, nodedig, a rhamantus. Yn wir, fe ellid dyweyd fod gorchwylion bywyd deallol, gydag ychydig eithriad au, yn dawelog, annigllawn, ac yn hawlio llwyr feddianiad o feddwl dyn. Y mae yn wir hefyd fod gan y gorchwyl- ion hyny eu hanesyddiaeth, a hono yn helaeth a ffrwythlawn ddigon, pe byddai gan ddyn onid y gallu gweledigol ifedru darllen yr ymgymhelliad sydd yn meddwl yr awdwr; ond, gyda rhaî eithr- iadau, y mae'r ymgymhelliad hwnw yn ddidrwst ac anymwthgir, wedi ym- lochesu yn ddirgelaidd yn nhufewnol gyneddf y meddwl, a'r astudiaeth ohonp