Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIAD METHODISTAIDD. 113 y Diwygiad Methodistaidd, yn yr ystyr lion, fel esgyrn Eliseus—pan y deuai rhyw gorff marw i gyffyrddiad âg ef elai yn fyw yn y fan. Bywheid pregethu, yn mhob man lle yr ydoedd yn farwaidd yn flaenorol, unwaith y deuai i gyffyrddiad â'r diwygiad. Cyfodai hyn o'r teimlad dwys angeiddol a'i nod- weddai. Teimlad yn creu dawn ydoedd, ys dywedai y diweddar Dr. Hughes (Y Lladmerydd, cyf. v., tudal. 199). Nid dawn i harahlu a feddylir,—y mae y ddawn hono, ysywaeth, yn weddol hawdd i'w chael; eithr y ddawn i deimlo nes llosgi, ac o losgi i lefaru, a llefaru nes rhoi pob peth ar dân. Dyma wir ddawn y Weinidogaeth. Nid bywiogrwydd n&turiol, nid llithrigrwydd tafod, nid arucheledd meddyliau, yn unig; eithr y peth dyeithr, gwynias, dienw hwnw, a gyfodaio ddyfnder yspryd y dynion eu hunain, ac a ganlynai, yn ei effeithiau annesgrifladwy, bregethu y diwygiad yn mhob man. Er cymaint y gwahan- iaeth naturiol rhwng y d^wygwyr à'u gilydd, etto canlynai yr un effeithiau eu pregethu yn wastad. Pregethai Jonathan Edwards, allan o bapyr, mor dawel, heb symud llaw na throed ; ond disgynai y bobl yn gelaneddau meirwon wrth ei wrandaw, a thorent allan, ar y canol, i ruddfan am ymwared. Pregethwr naturiol, o feddwl rhesymegol, ac o draddodiad tawel, ydoedd John Wesley; ni waeddai, ni ddyrchafai, ac ni pharai glywed ei lef yn yr heol, eithr enynai ei weinidogaeth fel tàn, llosgai yn eirias nes ysgubo pob gwrthwynebiad o'i fiaen. Pwy na ddarllenodd hanes ei ymweliad âg Epworth, ei hen blwyf genedigol, a'r wythnos o bregethu yno ar garreg fedd ei dad ? Heriwn neb i ddangos dim mwy arddunol yn hanes pregethu yr oesoedd. Mis Mehefin y flwyddyn 1742 ydoedd. Gwrthodasid iddo, gan y curad, i gael pregethu yn yr eglwys yn hen bwlpud ei dad ! cyhoeddwyd ef i bregethu yn y fynwent; ac yno, ar feddrod ei dad, pregethodd am saith hwyrnos yn olynol, i gynulleid- faoedd mawrion, ar y fath destynau a'r rhai canlynol,—" Nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod," " Trwy ras yr ydych yn gadwedig," " 0 ! Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur." Yr oedd y llinynau tyner a glymai deimlad y pregethwr wrth y lle, golygfeydd ei hen ardal enedigol, a gweled wynebau hen gyfeillion ei faboed, yn ychwanegu yn fawr, iddo ef, at ddwysder yi adeg. Ond yr effeithiau oeddynt yn annesgiifiadwy. Cerid ei wrandawyr, o fesur y cerbydaid, o flaen rhyw ycad o heddwch a drigai gerllaw, ar y dybiaeth fod y dylanwad dyeithr ydoedd wedi eu mtddianu, o fewn cylch awdurdod hwnw. "Pabeth awnaethant?" gofynai yr ynad. "Y maent yn honi bod yn well na phobl eraill; ac, heblaw hyny, y maent yn gweddîo o foieu hyd hwyr," oedd yr attebiad. " A wnaethaot ddim arall ? " " Do." gwaeddai un hen wr o'r dorf, " os gwelwch yn dda, syr, y maent wedi argyhoeddi fy ngwraig i. Cyn iddi fyned attynt yr oedd ganddi dafod, ond yrwan y mae hi mor ddiniwed a'r oen.'' " Ewch a nhw yn ol," ebe yr ustus, " a gadewch iddynt argyhoeddi holl bobl dafod-ddrwg y dref yma." A*r un effeithiau rhyfedd a ganlynent ei bregethu ef a'r diwygwyr eraill yn mhob man lle yr elent. Y mae pregethu y Diwygiad Methodistaidd hefyd, fel ei emynyddiaeth, yn hawdd ei adnabod. Hawdd adnabod, yn mhob gwlad, weinidogaeth y cyfundebau hyny ag y mae sawyr y tàn hwn ar eu pregethwyr. Cyfaddefa yr ysgrifenydd ei wendid, pe gwendid hefyd, sef ei awyddfryd am wrando pregethau; ac y mae wedi cael cyfleusterau gweddol, o Damascus yn y Dwyrain i San Fiancisco yn y Gorllewin, i wrando pregethu, mewn dwy iaith; a theimla yn sicr, ar ol gwrando ar bregethwyr o wabanol gyfundebau ac o wahanol genedloedd, fod yn aruthr hawdd adnabod piegethu àg ol y Diwygiad Methodistaidd arno, gan nad yn mha wlad y'i ceir. Mae rhy w sawyr arno nas ceir mohono oddieithr ar y rhai hyny a gyffyrddasant àg ef. Y mae rhyw olyniaeth ryfedd hefyd yn perthyn i'r pregethu hwn. Dywedir fod Christinas Evans wedi ei danio gan dân Bobert Roberts o Glynnog, a Robert Eoberts gan dân Daniel Rowland o Langeitho. Mewn eithygl ardderchog ar Christmas Evans, yn y llyfr gwerth- fawr hwnw üymru, dan olygiad y diweddar Owen Jones, Llandudno (cyf. i., tudal. 519), dywed awdwr yr ysgrìf hono ddarfod i " ysprydiaeth newydd ddisgyn ar weinidogaeth Christmas Erans, wedi iddo fod yn gwrando ar Eobert Eoberts o Glynnog yn pregethu yn Ehydyclafrdy yn Llëyn." " Yr oedd y medd- yliau ynof," ebai Christmas Evans, " ond Eobert Eoberts roes allwedd y level i mi." Ymddengys, ohyny allan, ddarfod i ystafelloedd enaid Christmas Evans ymagor; a ffrydiodd allan, ohyny hyd ei fedd, yn rhaiadrau digyffelyb, yr athfylith ryfeddaf a'r ddawn fwyaf arbenig a welodd Cymru erioed. Y mae ar goffa hefydddarfod i nifer lliosog o'r Anghydffurfwyr a flodeuent tuag amser torriad allan y diwygiad yn Nghymru, dderbyn yn helaeth o'i yspryd, ac y buont yn addurn i'r weinidogaeth, ac yn llosgi yn ddysglaer yn mhwlpudau y gwahanol gyfandebau y perthynent iddynt. Yn eu plith gellid nodi Lewis