Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE HYBAECH AECHDDIACON EYANS. Er bod ychydig dros dair blynedd er pan roddwyd gweddillion marwol yr Hybarch John Evans, A.C., Archddiacon Meirionydd, i orphwys yn y bedd hyd ganiad yr udgorn diweddaf, eto y mae ei enw a'i waith yn fyw ynghof miloedd o'i edmygwyr a'i gydwladwyr. " Coffadwriaeth y cyüawn sydd feadigedig ; " a "mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer." Da fuasai genyf pe buasai rhywun mwy cymhwys na mi, a mwy cydnabyddus â'n cyfaill, wedi ymgymeryd à'r gwaith o ysgrifenu ychydig linellau coffadwriaethol am dano yn ein cyhoedd- iad cenedlaethol; ond hyd nes y ceir gwell, offrymaf fy ysgrif amheriîaith ar allor cariad er cof am un oedd anwyl genyf. Mab hynaf ydoedd yr Archddiacon i'r diweddar Mr. John Evans, Ty'nycoed, ac Anne, merch Mr. John Owen, Crafnant, yn Sir Feirionydd. Yr oedd o linach henafol oedd yn hanu trwy deuluoedd Tanybwlch a Gwynfryn, o rai o dylwythau enwog Cymru Fu. 0 du ei fam yr oedd yn disgyn o Llewelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a fu farw yn 1204. Gauwyd ef Mawrth 4, 1815 ; ac addysgwyd ef yn Ysgol Eamadegol Biwmaree. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i fod yn gyfreithiwr, ond nid oedd yn ei elfen wrth feddwl am yr alwedigaeth hon, ac felly rhoddod 1 hi i fyny er niwyn oyrhaedd un arall mwy cydnaws â'i duoddiadau. Er mwyn parottoi i'r swydd uchel o fod yn Weinidog i Grist (am yr hon swydd yr oedd yn dyheu) aeth i Goleg y Drindod, Dublin, ac enillodd y radd o Wyryf yn y Celfyddydau (B.A.), yn 1841; ac" A.O. ya 1863. Urddwyd ef yn Ddiacon gan Esgob Bethell ar Sul y Drindod yn 1841 ; ac felly bu am haner cant o flynydd- oedd i'r diwrnod yn y Weinidogaeth. Ei guradiaeth gyntaf ydoedd Llaubedr y Cennin, lle y bu mewn gofal o'r plwyf am dair blynedd o dan y Deon Cotton. Dangosodd yn fuan fod ei galon yn y gwaith, canys adgyweiriodd yr hen adeilad a bu yn foddion i ychwanegu at nifer yr addolwyr. Cafodd ei ddyrchafu i fywioliaeth Pentrefoelas, lle y gweithiodd yn ddiwyd am 14 mlynedd, ac y gadawodd ei ol ar y lle. Priododd ferch i Mr. William Williams, Brynyberllan, yn agos i Bwllheìi; a chafodd ei fendithio â theulu. Pan yn y plwyf hwn gosododd i lawr sylfaen ei ddefnyddioldeb dyfodol, trwy ddarllen llawer, ym- gymysgu â'r werin bobl, a pharottoi yn ofalus gogyfer à'r pulpud. Buan y dangosodd ei hoffder o hynafiaethau, yr hyn a ddadblygodd. fel yr oedd yn cynyddu mewn dyddiau. Byddai " Hanes Pentrefoelas " o'i eiddo yn hynod o ddyddorol pe caffai ei gyhoeddi. Oan fod fy mrawd yn Ficer yr un plwyf yn awr, cefais unwaith gyfleusdra i holi rhai o'r hen bobl ynghylch eu hen Ficer, Mr. Evans. Yr oedd eu llygaid yn sirioli a'u calon yn cynhesu wrth siarad am dano ef a'i deulu. Ei brif nodweddiad yngolwg yr hen bobl a'i hadwaenai mor dda ydoedd ei ostyngeiddrwydd dirodres a'i ffyddlondeb i'w waith. Yn y fiwyddyn 1157 penodwyd ef i Bersonoliaeth Machynlleth ; ac er na fu yno ond rhyw bum mlynedd neu chwech, bu yno lawn ddigon i'r trigolion adnabod ei werth. Yn 1862 olynodd Deon üotton fel Eheithor Llanllechid, trwy benodiad gan Esgob Campbell; ac ar ol marwolaeth Archddiacon White, Dolgellau (o fendigedig goffadwriaeth), cafodd ei ddewis yn Archddiacon Meirionydd a Chanon Trigianol yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Bu yn llafurio yn llwyddianus yn Llanllechid am 26 o flynyddoedd. Nid oes neb ond y plwyfolion ŵyr am ei ddiwydrwydd yn ymweled â'r cleifion a'r cystuddiol, y tlawd a'r anghenus. Byddai bob amser yn barod i gynorthwyo neu gyfarwyddo pawb fyddai mewn eisiau neu mewn helbul. Cydweithiai, hyd y gallai, â phawb oedd yn ceisio gwneuthur daioni, tra ar yr un pryd yn berffaith deyrngarol i'r Eglwys. Anhawdd oedd cweryla âg ef, gan y rhaid cael dau at hyny; ac ni cheid ef yn euog o fod yn un. Heblaw y gwasanaethau yn Eglwys y Plwyf, cynhaliodd wasanaethau ychwanegol yn Maesygroes, rhwng Llandegai ac Aber. Cyfododd ysgoldy bychan yno, a chyflogodd gydweithiwr i'w gynorthwyo. Yr oedd yn meddwl yn fawr o'r " achos " yn Maesygroes; ac ni bu y bobl yn ol o werthfawrogi ei "lafur cariad." Byddai yr ysgoldy Eglwysig bob amser yn orlawn e bobl. Teimlodd lawer gwaith yr angen o eglwys helaethach; ond symudwyd ef i'r deml ogoneddus fry cyn sylweddoli ei ddymuniad. Gwedi i'r gweithgar Eeithor presenol gymeryd gafael yn awenau y plwyf, cafodd gan Arglwydd Penrhyn adeiladu Eglwys newydd, hardd a chostus; ond yr wyf yn sior na bydd neb yn fwy parod na Mr. Davies i gydnabod gwirionedd y ddeadf anhoredig a osodwyd i lawr gan y Duw-ddyn:—"Eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Gwir mai y Parch. E. Davies fu yn offeryn i ddylanwadu ar y boneddwr anrhydeddus o'r Penrhyn i wario ei filoedd er cyfodi adeilad teilwng o'r fraint i addoli; ond ei ragflaenydd barottodd y meini ysbrydol trwy gasglu ynghyd ddechreuad deadell. Pan y cefais y fraint